HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Fenlli a Moel Famau 23 Chwefror



Ewch am dro hefo Morfudd ar bob cyfri’ a byddwch yn ddiogel ar unrhyw fynydd o Fôn i Fynwy ac o Eryri i Nepal bell, ond peidiwch â dibynnu ar ei sgiliau llywio pan mae hynny’n golygu ffeindio’r ffordd o Fethel i Rhuthun. Da ydy gallu adrodd fodd bynnag, bod Morfudd ac Alwena, ei chwaer, wedi cyrraedd Dyffryn Clwyd er gwaethaf detour yng nghyffiniau Llanelwy! Ymunodd Gwyn (Chwilog), Gwyn (Llanrwst) ac Anet â nhw.

Cerdded o Rhuthun i’r Clwyd Gate trwy goed Plas-y-nant ac yna ar hyd odrau Moel Eithinen i Fwlch Crug-glas cyn esgyn yn serth i gopa Moel Fenlli. Erbyn hynny, roedd hi’n pluo eira’n gyson er nad oedd hynny’n amharu dim ar y daith.

I lawr i Fwlch Pen Barras i gael cinio cyn dringo trwy Goedwig Clwyd ac yna i gopa Moel Fammau. Cerdded i lawr i Lanbedr Dyffryn Clwyd heibio i Fferm Teiran ac yna ar hyd llwybrau cyhoeddus eraill yn ein holau i dref Rhuthun.

Diolch i’r pump a fentrodd i Ddyffryn Clwyd am eu cwmni difyr.

Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan Anet ar Flickr