HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Pennant 25-26 Mai




Lluniau gan Morfudd ar Flickr Clwb Mynydda Cymru

Petai ‘na un o drigolion pentref Garndolbenmaen wedi bod yn wyliadwrus dros benwythnos y Sulgwyn mi fyddant wedi credu fod cyflafan wedi dod i ran aelodau’r Clwb Mynydda! Er bod saith o aelodau’r Clwb wedi cychwyn yn brydlon fore Sadwrn o’r Garn i gerdded Pedol Cwm Pennant yn ei chyfanrwydd, a’r criw hwnnw wedi cynnwys 11 mewn nifer yn ystod y daith, dim ond dau ddaeth yn ôl ar droed bnawn Sul!

Dwi’n meddwl fod y ffaith mai fi oedd un o’r ddau ddaeth pob cam yn ôl i’r Garn, a chau'r cylch, yn arwydd o’r mwynhad a gefais ar awydd i ymestyn y profiad cyn hired ag y gallwn cyn troi am adref.

Cychwynnodd saith ohonom o Tŷ’r Mynydd, ger Cors Graianog yn eithaf prydlon, hefo Morfydd yn arwain yn hwyliog ac yn ddi-lol. Doeddwn i 'rioed wedi dringo at Grib Nantlle o’r cyfeiriad yma o’r blaen. Fel arfer cychwyn o gyffiniau Nebo a chyrraedd Bwlch Cwmdulyn dros Fraich y Llyn y byddai. Y tro yma roeddwn am gael dringo copa ieuengaf Cymru am y tro cyntaf: Mynydd Graig Goch. Dringasom yn hamddenol heibio i Gwm yr Haf ar y chwith a Chors Graianog o’ tanom ar y dde. Cyn troi am y copa ifanc roedd ‘na drefniant i gwrdd â Jeremy, Cliff a Dilwyn oedd am ddringo i'r Grib o Gwm Pennant drwy Gwm Ciprwth.

Wedi seibiant uwchlaw Cwm Ciprwth i ddisgwyl y triawd, a thipyn o ymarfer codi wal gan ambell un wrth iddynt gyraedd, doedd hi’n ddim o amser cyrraedd Mynydd Graig Goch. Ar ôl hynny roedd tri o gopaon y Grib o’n blaenau gyda golygfeydd di-dor i bob cyfeiriad. Fyddai byth yn methu a rhyfeddu pa mor wag ydi Eryri, heblaw am y Wyddfa a’i chriw ac, ar ddyddiau prysur, y Glyderau. Er ei bod hi’n benwythnos Gŵyl y Banc cawsom oriau o gerdded ar fynyddoedd godidocaf Cymru heb weld prin neb drwy’r dydd!

Hamddenol oedd y cerdded drwy’r dydd. Braf oedd hynny gan fod gan bawb bac trwm ar eu cefn. Roedd yna amser i ymlacio, sgwrsio, aros am lymaid a brathiad o frechdan, gwirioni ar y golygfeydd a chymryd ein hamser i ddringo o’r bylchau yn ein pwysau: yn enwedig felly'r ddringfa hir o Fwlch Dros-bern i gopa Mynydd Talymignedd.

Bu rhaid ffarwelio ac Elen ar gopa Talymignedd. Roedd pass yn disgwyl amdani yn Rhyd Ddu a gormod ganddi i wneud adra meddai, na threulio'r Sul cyfan yn mwynhau bod allan hefo’r Clwb. Wedi dweud hynny byddai’n teithio i Wlad y Basg dros wyliau’r Sulgwyn. Felly doedd neb yn teimlo gormod drosti!

Rhywsut roedd yr amser wedi hedfan, wn i ddim i ble! Erbyn cerdded i lawr y gefnen rhwng Cwm Dwyfor a Chwm y Ffynnon, gan frecio'n drwm dan bwysau'n pacia, roedd hi ar ôl chwech a phawb yn edrych ymlaen at gael gwersylla ochr isaf Fwlch y Ddwy-elor.

Roedd Morfydd wedi bod yn y Bwlch y diwrnod cynt, mae arweinydd da wastad yn paratoi o flaen llaw, ac yn hynny o beth doedd Morfydd yn ddim eithriad. Roedd 'na dir gwastad penigamp yn ein disgwyl yn adfeilion Chwarel Cwm Trwsgl. Roedd 'na gysgod rhag gwynt o’r gorllewin (drwy lwc mi fyddai hi’n noson olau leuad, lonydd), pistyll dwr gerllaw a chyflenwad o winoedd wedi eu cuddio dan fwy nac un lechan gan sawl tylwyth teg! Mi oedd hi wedi croesi fy meddwl i ddod a thipyn o win hefo mi ond wedi ail-feddwl ar ôl ystyried efallai na fyddai llymeitian yn arfer gan fynyddwyr profiadol - mae gennai lot i ddysgu am aelodaeth y Clwb ‘ma!

Roedd John Parri’n ein disgwyl wrth y gwersyll, wedi iddo ddringo at y chwarel o Flaen Pennant ddiwedd y prynhawn. Mi fyddai’n ymuno a ni am weddill y daith. Mewn dim o amser roedd pawb wedi gosod eu pebyll ac yn cymharu rhinweddau stofs gwersylla wrth ferwi dŵr a chynhesu cawl a stiw o pob math. Cofiwch! Os am ddod a bwyd o’r rhewgell adref gyda chi gwnewch yn siŵr ei fod yn cael amser i ddadmer. Hyd yn hyn dyw Cotswold ddim yn gwerthu poptai ping ar gyfer gwersylla gwyllt!

Roedd y tywydd wedi bod yn fendigedig drwy’r dydd. Roedd yr haul wedi tywynu ac awel ysgafn, fain wedi’n cadw rhag lladdfa chwyslyd o daith. Wrth iddi nosi diflannodd Cwm Pennant wrth ein traed i’r gwyll ‘yng nghesail y moelydd unig’. Disgynnodd y tymheredd yn rhyfeddol o sydyn. Dywedodd un o’r criw ei bod hi’n bedair gradd erbyn tua 10 o’r gloch. Drwy lwc roedd digonedd o goed tan i’w cael ymysg murddunnod y chwarel a buan iawn roedd coelcerth fach yn cynhesu traed pawb ac yn cadw’r oerfel draw.

Roedd pob un oedd wedi dod a gwin neu frandi, neu wisgi neu hyd yn oed jin eirin tagu hefo nhw yn eithriadol o hael. Cyn hir roedd pawb wedi cynhesu drwyddynt ac yn ceisio am y gorau i gofio geiriau cerdd Eifion Wyn i Gwm Pennant. Drwy lwc roedd y gerdd gan Catrin ar ei i-ffôn ac fe eisteddodd pawb yn dawel i wrando arni’n ei hadrodd wrth i’r lleuad lawn godi dros ysgwydd Foel Lefn. Noson byth gofiadwy!

Dranoeth cododd pawb, bron iawn, yn brydlon. Wedi'r brecwast fe ddechreuodd y niferoedd ddarfod. Penderfynodd pedwar o’r cwmni droi am Flaen Pennant.  Felly dyma ffarwelio a Morfydd, Jeremy, Cliff a Cem. Morfydd yn achwyn ar ôl rhywbeth roedd wedi fwyta, neu yfed o bosib, a ddim am gario 'mlaen! Mae'n rhaid fod yr aer glir ac oer wedi mynd ar gwydr bychan o win a gafodd yn syth i'w phen!

I ffwrdd a ni felly ar goblyn o drot i fyny drwy Fwlch Cwm Trwsgl, dros Graig Cwm Trwsgl ac ar draws Bwlch Sais. Roeddem ar gopa Moel Lefn erbyn 10 y bore a Moel yr Ogof siŵr o fod erbyn 11.00. Wedi cyrraedd Bwlch Meillionen dyma droi am i lawr. Roedd cael gweld pob un o’r copaon y buom drostynt dros y deuddydd wrth ddisgyn drwy’r cwm yn taro deuddeg gyda’r cyffio’n groth fy nghoesau.

Wedi i John, Catrin, Sian a Dilwyn ein gadael yng ngwaelod Cwm Llefrith i fynd at y car ym Mlaen Pennant dim ond Gareth a finnau oedd ar ôl i gwblhau’r daith pob cam i’r Garn. Roedd y cerdded yn braf, os braidd yn herciog, i lawr at Bont Gyfyng. Bu rhaid eistedd yno, wrth yr arwydd Saesneg ‘Mêl ar Werth’, i graffu’r map ac i adnabod llwybr drosodd: heibio Moelfre, Cae Amos a thrwy Fwlch y Bedol i’r Garn. Wedi croesi drwy’r bwlch braf oedd cerdded ar hyd y lonydd glas sydd yng nghyffiniau’r Garn, heibio i ochr isaf Cors Graianog, yn ôl at y car

Erbyn chwarter i bedwar roedd y ddau ohonom yn ôl ble cychwynnodd y saith ohonom y bore blaenorol. Roedd i’w weld fel llawer mwy na deg awr ar hugain. Roeddwn wedi cael cymaint o brofiadau cofiadwy, wedi chwerthin cymaint ac wedi mwynhau’r cwmni nes roeddwn yn teimlo fel petawn wedi bod i ffwrdd am ddyddiau

Diolch i bawb, ac yn enwedig i Morfydd, am gyfrannu, pob un yn eu ffordd, at brofiad bendigedig. Hon oedd fy nhaith gyntaf gyda’r Clwb i gynnwys noson o wersylla gwyllt. Mi fyddai’n cadw lle yn y dyddiadur ar gyfer yr un flwyddyn nesaf!

Adroddiad Ifan Llew