Penwythnos Ambleside 27-29 Medi
Buom yn ffodus dros ben i fwynhau tywydd godidog am y deuddydd. Troi trwynau’r cerbydau dros Fwlch Kirkstone wnaeth bron hanner y criw fore Sadwrn i ddringo Helvellyn o Glenridding dros y Striding Edge enwog. Dilynodd criw bach ohonynt y grib tua’r gogledd i Raise ac i lawr y gefnen heibio olion yr ymdrech fethiannus i sefydlu llethr sgio a hen fwynglawdd Greenside yn ôl i Glenridding. Trodd y gweddill tua’r de dros Nethermost Pike at Grisedale Tarn, i fyny Fairfield ac i lawr y grib i Ambleside – tipyn o daith! Tro pedol yn erbyn y cloc o amgylch cwm Rydal oedd y dewis y rhan fwyaf o’r gweddill – cychwyn o Ambleside, dros Low a High Pike i Hart Crag a Fairfield ac i lawr y gefnen dros Rydal Fell a Heron Pike i bentref Rydal – taith sylweddol arall! Ac i roi peth amrywiaeth i’r gweithgareddau, bu John Parry a Gareth Everett yn sgramblo (gradd 3) ar y Black Crag ar St Sunday Crag, Gareth ’Rynys ac Eryl yn beicio dros fylchoedd Wrynose a Hard Knott a Raymond yn sgramblo a cherdded ar Old Man of Coniston.
Wedi gwely cynnar, roedd pawb yn eiddgar i fod allan ar y mynyddoedd fore trannoeth. Langdale oedd cyrchfan bron pawb y tro hwn, pawb yn nelu am Stickle Tarn gyda’r tri Gareth, Gaenor, Ffion, Iolyn, Ann, Prys ac Eryl yn dewis y sgrambl eithaf rhwydd ond gwych o ran golygfeydd i fyny Jack’s Rake i gopa Pavey Ark ac ymlaen i Harrison Stickle a chyfarfod yno â Rhiannon a Clive, y ddau Gwyn, Anet, Elizabeth, Haf, Iolo a John Arthur. Rhannwyd yn wahanol grwpiau wedyn gyda rhai yn dod i lawr i flaen cwm hyfryd Mickleden ac eraill yn mynd tuag at Rosset Pike a Bow Fell i wneud diwrnod hirach ohoni. O’r topiau rhwng y Langdale Pikes, gallem weld yn glir iawn tua’r gogledd Cam Crag uwchben Borrowdale lle’r oedd JP, Mark a Sioned yn treulio’r diwrnod ar sgrambl hir (gradd 2), un o’r rhai hiraf ac yn ôl llawer y gorau yn Ardal y Llynnoedd. Diwrnod byr oedd dewis Heini ac Enid cyn eu taith hir yn ôl i Lanelli ac Abertawe, Gwen Aaron a Gwen Richards yn cwblhau taith ar draws traethau Bae Morecambe ar eu ffordd adref, Iona yn treulio’r diwrnod gyda’i merch a’r teulu o Lancaster a Raymond yn mynd am Sca Fell o Eskdale ac yn bwriadu aros deuddydd arall.
Braf iawn oedd cael croesawu rhai i’w taith gyntaf gyda’r clwb a rhai ar eu taith gyntaf y tu allan i Gymru. Yr unig gwmwl dros y penwythnos oedd bod Sian o Ddolwyddelan, a oedd wedi bwriadu dod yn gwmni i Ffion, wedi gorfod tynnu’n ôl y funud olaf oherwydd profedigaeth deuluol. Danfonwn ein cofion ati a’i theulu.
Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog a’u cydweithrediad hynaws a diolch arbennig i’r rhai fu’n trefnu ac arwain teithiau.
Ôl Nodyn: wedi anghofio nodi bod criw Pedol Rydal ar y Sadwrn wedi dod ar draws pererin ar ddifancoll! Alan Hughes (Machynlleth) yn digwydd cerdded yr un llwybrau tra ar ei wyliau efo Mair!!
Adroddiad: Eryl Owain
Lluniau gan Haf ar wefan FLIKR