Cader Idris 31 Awst
Daeth criw da o ugain at ei gilydd ym maes parcio Minffordd yn Nhal-y-llyn ar fore sych a braf. Cynheswyd beth ar y cyhyrau trwy gerdded yr hanner awr gyntaf ar hyd y gwastad at hen ffermdy Pentre ar lan dwyreiniol Llyn Mwyngil yn barod ar gyfer y ddringfa serth i fyny i Gwm Amarch. Cerdded ychydig tua'r gorllewin wedyn i esgyn yn fwy graddol i ben Craig Cwm Amarch cyn ymuno â'r llwybr arferol o Minffordd - a gweld cerddwyr eraill am y tro cyntaf - ac ymlaen dros Graig Cau i gopa'r Gader am ginio a seibiant haeddiannol. Y tywydd yn parhau'n sych ond yn oerach a mwy gwyntog na'r disgwyl wrth gerdded i Fynydd Moel a chario 'mlaen tua'r dwyrain i Fwlch Arran (gan osgoi disgyn yn syth ac yn serth o'r copa) cyn dilyn llwybr Nant Cae-newydd yn ôl i'r prif lwybr ac i lawr drwy'r coed yn ôl i'r maes parcio wedi galw am baned a blasu amrywiaeth o'r cacennau blasus yn y caffi newydd. Cwblhawyd y daith mewn tua chwech awr - diolch i bawb am eu cwmni diddan. Y cerddwyr oedd Rhiannon Trefor (ar ei thaith gyntaf - croeso arbennig!), Dwynwen, Raymond (Llanddoged), Gareth Wyn, Gwyn ac Eifion (Llanrwst), Alun Davies, Alan Hughes, Edward a Chris o Fethesda, Sian Shakespear, Lisa (Tal-y-bont), Gwen Aaron ac Anet, Myfyr (wedi dringo Cadair Idris dros 1500 o weithiau yn ôl ei amcangyfrif - ond ddim ar ddyletswydd heddiw!), Rhys Dafis, Jeremy, Huw Myrddin, Rhodri ac Eryl.
adroddiad: Eryl Owain
lluniau: Rhodri Owain ar FLIKR