Penwythnos Penfro 17-19 Mai
Lluniau gan Anet ar Flickr
Mwynhawyd cyfuniad perffaith o groeso twymgalon a Chymreig y pencadlys yn y Dafarn Sinc, tywydd braf a chwmni diddan gan sicrhau penwythnos cofiadwy yn y Preseli. Roedd yn braf iawn gweld nifer o hen gyfeillion o'r de a chanfod bod llawer iawn o'r gogledd wedi teithio i Benfro hefyd i'n hatgoffa ein bod, wedi'r cyfan, yn glwb cenedlaethol!
Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau gyda'r nifer fwyaf ar y Sadwrn yn dewis taith gerdded hir o'r Dafarn Sinc dros gopa Foel Cwmcerwyn i Dafarn y Bwlch ac i lawr i Gwm Gaun cyn dychwelyd dros Foel yr Eryr, taith o tua 14 milltir. Chwech ddewisodd y daith feicio o tua 60 milltir drwy Gas-mael a Thre-letert i Dŷ Ddewi ac yna ar hyd yr arfordir trwy Drefin i Abergwaun ac yn ôl dros Mynydd Morfil, a chael seibiant braf o rhyw chwarter awr tra'r oedd gyrr mawr o wartheg yn croesi'r ffordd yn hamddenol i'w godro a chael eu bwydo! Diolch i Guto am arwain - ac yntau eisoes wedi seiclo 40 o'i gartref yn Rhydaman y bore hwnnw!
Ar y Sul, dyblwyd nifer o beicwyr i ddwsin a chafwyd taith braf eithriadol arall o rhyw 40 milltir dan arweiniad Bruce dros y mynydd i Gwm Gwaun, arhosiad (byr!) gyda Bessie yn y Dyffryn Arms, yna trwy Cilgwyn a Ffynnon-groes i Grymych ac yn ôl drwy Fynachlog-ddu. O garreg goffa Waldo, ar gyrion y pentref hwnnw, y dechreuodd y cerddwyr eu taith hwythau i gopaon Carnbiga, Carngyfrwy a Foel Drygarn.
Llawer iawn o ddiolch i Bruce Lane yn arbennig am gydlynnu'r cyfan ac i bawb arall a gyfranodd at lwyddiant y penwythnos. A'r un yw ein dymuniad ni â Waldo inni gael rhodio
' . . . eto Weun Cas' Mael
A'i pherthi eithin, yn ddi-ffael,
Yn dweud bod gaeaf gwyw a gwael
Ar golli'r dydd.'
Adroddiad Eryl Owain