Yr Wyddfa 1 Ionawr
A hithau'n tynnu am hanner awr wedi naw, y rhagolygon yn swyddfa'r wardeniaid ym Mhen-y-pas yn darogan glaw trwm o naw tan hanner, i'w ddilyn gan law trwm o hanner tan dri, a dim golwg am neb arall o Glwb Mynydda Cymru, roedd Gareth Rynys a minnau'n dechrau pendroni beth fyddem yn ei wneud pan ymddangosodd gwên lydan mewn côt borffor; dechreuodd y wên siarad a chanfuwyd mai Sian (Porthmadog) oedd berchen y wên! Doedd dim troi am adre i fod felly a chan nad oedd yn dywydd i oedi am baned nac i fwynhau'r golygfeydd, cyrhaeddwyd y copa ar hyd Llwybr y Mwynwyr mewn dwyawr gyda gwynt cryf i'n cefnau i fyny'r cwm heibio Glaslyn ond yn dawelach o Fwlch Glas i'r copa - a chafwyd y profiad anghyffredin ac amheuthun o gael y copa i ni ein hunain. Ond troi ar ein sawdl oedd hi, paned pum munud ger Bwlch Glas ac i lawr â ni ar hyd Llwybr Bwlch Moch a nol yn y maes marcio ymhen ychydig dros awr a hanner. Gweld dim mwy na rhyw 20-30 o gerddwyr eraill ond diwrnod gwerth chweil ac oedd, roedd y wên yn dal yno ar ddiwedd y dydd hefyd!
Adroddiad: Eryl
dim lluniau!