Yr Wyddfa o Rhyd-ddu 4 Ionawr
"Wele'n cychwyn dri ar ddeg o gerddwyr llon ar fore . . ." - wel, os nad oedd yn deg, roedd o leiaf yn sych wrth i'r criw adael y maes parcio ger hostel y Snowdon Ranger ychydig cyn deg a dilyn y llwybr amlwg i gyfeiriad Bwlch Cwm Brwynog a chael ein llyncu'n fuan gan y cwmwl isel. Hwn, mae'n debyg, oedd y llwybr cynharaf i gopa'r Wyddfa a'r mwyaf poblogaidd hyd at ail chwarter y 19eg ganrif cyn bod ffyrdd wedi eu hadeiladu i Lanberis a Phen-y-gwryd. Ond un criw arall a welsom ni arno - yn cerdded i lawr i'n cyfarfod - yn ogystal â dau di-Gymraeg wrthi yn yr oerni yn trwsio'r llwybr uwchben Llyn Ffynnon-y-gwas i sŵn radio byddarol! Cododd y cwmwl wrth ddynesu at y copa ac roedd digon o eira dan draed i amryw roi cynnig ar eu cramponau! Swatiwyd yng nghysgod y caffi i fwynhau cinio hwyr cyn disgyn tuag at Fwlch Main a dal ati dros Allt Maenderyn yn hytrach na throi am y llwybr byrrach ar hyd crib Llechog. Cafwyd un cawod o eira ar y ffordd lawr i roi naws gaeafol i'r p'nawn cyn oedi i fwynhau paned ddioglyd ym Mwlch Cwm Llan a dychwelyd heibio olion y chwarel i Ryd-ddu. Iolo Roberts, John Parry, Gwilym Jackson, Gwyn Chwilog ac Anet, Richard (Ruthun), Delwyn (Conwy), Arwel Roberts, Sioned Llywelyn, Anne Till, Gareth Rynys, Gareth Wyn ac Eryl oedd y cerddwyr
Yr un diwrnod bu Guto (Rhydaman) ar daith feicio 88 milltir o amgylch a thrwy ganol Eryri a thros fylchoedd Drws-y-coed, Gorddinan, Ogwen a Llanberis - tipyn o her ar ddechrau mis Ionawr ond roedd nol yn saff yn Rhyd-ddu.
Ychydig ddewisodd aros dros nos yng Nghanolfan Rhyd-ddu y tro hwn ond bu Arwel a John yn dringo yn y Beacon ar y Sul. Llawer o ddiolch i Iolo am drefnu'r penwythnos.
Adroddiad: Eryl
dim lluniau!