Cylch Gogledd y Carneddau 5 Ebrill
Wedi parcio ger Tan-y-lôn, ychydig oddi ar yr A55 rhyw ddwy filltir i'r dwyrain o Landygai, dringwyd yn serth i ymuno â Llwybr Gogledd Cymru cyn troi oddi arno i wynebu esgyniad serth iawn o Foel Wnion ond gan fwynhau golygfa wych o lannau Menai o Fangor i Benmon ac ynys Seiriol a chyrraedd y copa (580medr) am 11.30, rhyw ddwyawr wedi gadael y ceir. Disgyn wedyn i'r bwlch rhwng Llanllechid ac Abergwyngregin cyn codi'n fwy graddol i gopa'r Drosgl ac ymlaen dros y Bera Bach a'r Aryg (gan fwynhau dringo'r pentyrau cerrig ar eu brig!) i Garnedd Gwenllian ac yna Moel Fras. Erbyn hynny, roeddem yn y niwl am yr unig dro - yn groes i ddarogan y tywydd ac er bod Môn a gweddill Eryri dan gwmwl isel drwy'r dydd. Do, buom yn ffodus iawn; ni chafwyd glaw o gwbl a dim ond pedwar arall a welwyd drwy'r dydd - dwy gerddwraig ger Moel Fras a dau feiciwr yn straffaglio i geisio cyrraedd copa'r Drum - a chyfle felly i werthfawrogi cymeriad digon gwyllt a diarffordd cymoedd a llechweddau gogledd-orllewin y Carneddau.
O Moel Fras cafwyd hyd i'r ffordd drol o'r Drum dros Garreg Fawr i Lanfairfechan - tan haul cynnes ac awyr las erbyn hynny. Y cymal olaf oedd dal bws yn ôl at y ceir wedi cyfanswm o wyth awr o gerdded.
Y criw oedd Sw a Richard o Ruthun, Gwyn ac Eifion o Lanrwst, Sioned a Llio o Bethesda, Alun o Gaergybi, Gwilym Jackson, Iolo Roberts ac Eryl.
Taith a drefnwyd gan Iolyn oedd hon - llawer o ddiolch iddo am gynllunio taith mor ddiddorol ac amrwyiol a'r rhan fwyaf ohonom, os nad pawb, yn cerdded ar fannau am y tro cyntaf a gresynwn nad oedd yn gallu bod gyda ni.
Adroddiad gan Eryl