Ardal Maentwrog - Ceunant Llennyrch 8 Ionawr
Llun cyfansawdd uchod gan Gwenan
Ceunant Llennyrch.
Daeth 28 o aelodau at ei gilydd ar ddiwrnod digon dymunol , yn gymylog, ond y glaw yn cadw i ffwrdd nes i ni gwblhau’r daith ac yn gyfforddus yn yr Oakley Arms yn Maentwrog.
Y cam cyntaf oedd mynd heibio pwerdy niwclear Trawsfynydd, gyda tua saith gant o weithwyr yno ar hyn o bryd, yn datgymalu’r safle – mwy nac oedd yno pan oedd yn cynhyrchu trydan.
I lawr am Gellilydan, yn dilyn y llwybr beics cyn troi ar y ffordd heibio Cefnfaes, dros y pibelli sy’n cario dwr i orsaf bwer Maentwrog, a phaned bach o dan y coed.
I mewn i Geunant Llennyrch, gyda golygfeydd i lawr i Afon Prysor, a dilyn llwybr cul ar hyd ochr y ceunant cyn ymuno â’r tarmac yn arwain at y pwerdy. Croesi’r afon, ac i fyny trwy Goed Llennyrch at brif argae Llyn Trwsfynydd, yn ôl i’r ceir ac i lawr i’r Oakley cyn i’r glaw ddod.
Adroddiad gan Raymond
Lluniau gan Raymond a Gwilym ar Flickr