Moel Siabod 8 Tachwedd

        
      Er  gwaethaf darogan tywydd hynod o wlyb gan arbenigwyr meteorolegol megis Derec,  MWIS ac Eirwen Fachwen, death unarddeg o gerddwyr ynghyd i fentro esgyn Moel  Siabod: Eryl; Gareth R’ynys; Gareth Wyn; Gwyn; Alice; Robat; Siân; Alun; Raymond;  Sw a Richard.
Cafwyd ambell gawod a hyrddiad o wynt ond, ar y cyfan, roedd y tywydd yn eitha’ ffafriol wrth i ni gerdded o amgylch Llyn y Foel ac yna sgramblo Braich y Ddaear Ddu.
Roedd y criw yn eistedd yn glyd yn Nhafarn Ty’n Coed erbyn dechrau gêm Cymru ac Awstralia.
Diolch  i bawb am eu cwmni.
                                             
      Adroddiad gan Richard Roberts
Lluniau gan Richard ar FLICKR
