Beicio ardal y Brenig 10 Mai
Bore digon stormus a saith ohonom am wynebu'r gwynt a'r glaw, Raymond, Annest, John Parry, Buddug, Prys a minnau. Cychwyn o Gefnbrith a throsodd am yr Alwen, ymweld â hen gartref tad Gaenor, Craig yr Ychen Fawr. Croesi'r bont droed ar draws yr Alwen ac o gwmpas y Brenig ac yn ôl ar draws yr argae i'r caffi am bryd ysgafn cyn mynd lawr i Bentref Llyn Cymer, yna allt serth i ardal Llanfihangel Glyn Myfyr cyn croesi'n ôl am Cerrig, allt arall, "leg stinger" yn ôl Gaenor a dychwelyd i Gefnbrith. Toeddem ni ddim mor wlyb â'r disgwyl ac wedi beicio 24 milltir mewn ardal newydd i rai ond cynefin Prys a minnau. Yn ôl Strava Gaenor roedd yn daith o 24.2 milltir, 3,879' o elltydd ac wedi llosgi 1,780 o galoriau, lwc mai pryd ysgafn gawsom a toedd na ddim tafarn ar ddiwedd y daith. Diolch i Prys, nabod y lle fel cefn ei law!!
Adroddiad Gareth 'Rynys