HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Garn Boduan 10 Medi


Llun cyfansawdd gan Gwenan

Roedd yn Haf Bach Mihangel go iawn pan gyfarfu un ar hugain ohonom ym maes parcio Nefyn – Gwenan a Gwil, Rhian Llangybi, Mair a Margaret o Fôn, Angharad, Jane a Lis o Benmachno, Carys P, John W a Haf, Rhodri O, Dewi Aber ac Arwel, Gwen Aa a Gwen Rds, Twm Gyrn Goch, Rhiannon H-J, Clive a Rhiannon a finna, Anet.  Rhyw daith digon linc di loncyn oedd hi yng ngwres braf mis Medi.  Fuon ni ddim yn hir yn cyrraedd copa Garn Boduan lle cafwyd seibiant i edmygu’r olygfa (a gresynu at anwybodaeth yr arweinydd ynglyn â hanes yr amddiffynfa!) I lawr wedyn a dilyn amryfal lwybrau ar draws Mynydd Nefyn tuag at Garreg Lefain, gan flasu’r mwyar duon melys ar y ffordd.  Cawsom ginio yng nghanol y rhedyn yn edrych tua Phorthdinllaen a bae Nefyn yn y tawch.  Am ryw reswm bu cryn drafod ar nadroedd, hislod, drogod a chwain rhedyn – gobeithio na fu neb yn diodde wedyn!  Ymlwybro drwy fwy o redyn at Lwybr yr Arfordir wrth bentref Pistyll.  Wrth ei ddlyn yn ôl tua Nefyn roeddan yn croesi inclen Chwarel y Gwylwyr ac yn synnu at gymaint o’r planhigyn estron, jac y neidiwr (yr Himalayan Balsam ) oedd wedi goresgyn yr ochrau.  Yn ôl yn Nefyn cawsom gyfle i gael golwg ar yr Amgueddfa Forwrol ar ei newydd wedd a mwynhau paned cyn ei throi am adra.
Diolch i bawb am eu cwmni. 

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Anet ar FLICKR