HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Llan a Lôn Gwyrfai 12 Ebrill


Taith debyg i un o rai dydd Mercher oedd cais Eryl, felly dyma benderfynu ar fws o Feddgelert i Bont Bethania cyn cerdded i fyny Llwybr Watcyn ac i fwlch Cwm Llan, i lawr i Ryd-ddu ac yn ôl ar hyd Lôn Gwyrfai. Daliodd 17 ohonom y bws ym Meddgelert – Eryl ac Angharad, Richard a Gwen o Ruthun, Rhian Llangybi, Haf, Jean Glyn Ceiriog, Gwilym Jackson, John Arthur, Adrian (ar ei daith Clwb gyntaf), Janet Buckles, Gwyn Chwilog, Iolo, Delyth , Anet, ac efo munud i sbario cyn i’r bws fynd, Eirwen ac Alun. O Nant Gwynant cerdded yn hamddenol i Gwm Llan a chael golwg ar ran o gynllun trydan-dwr Hafod y LLan cyn cychwyn i fyny am y bwlch. Penderfynodd hanner y criw ymestyn y daith a mynd am gopa’r Aran cyn ymuno â’r gweddill ar y llwybr am Ryd-ddu. Roedd Llwybr Gwyrfai yn ôl i Feddgelert yn newydd i amryw a’r golygfeydd o gwmpas LLyn y Gadair yn hyfryd. Tra’n cael panad wrth Hafod Ruffydd, yn unig ddafnau glaw y diwrnod, cawsom olwg dda ar y tren stêm oddi tanom yn igam ogamu wrth ennill tir rhwng Beddgelert a Rhyd-ddu. Yn ôl ei arfer, cerddodd John Arthur drwy’r dydd yn llewis ei grys tra’r oedd y gweddill ohonom mewn cotiau cynnes yn y gwynt oer!

Diolch i Gwyn am arwain ac i Eryl ac Alun am ofalu bod pawb yn cyrraedd yn ôl yr un pryd.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Anet ar FLICK