Moel Ysgyfarnogod a Gogledd y Rhinogydd 13 Rhagfyr
Bore heulog, clir arall yn Nhrawsfynydd a 14 o aelodau yn cyfarfod ger hen Gapel Cae Adda cyn symud rhai o'r ceir fyny i chwarel Cefn Clawdd. Cerdded fyny'r hen ffordd i'r gwaith mango (stalkers paths y Rhinogydd?) cyn dringo i'r bwlch uwchlaw Llyn Dywarchen. Troi i'r de a chadw i'r grib a bod yn ddigon ffodus i gael golwg agos ar haid o Gwtiad Aur (Golden Plover). Lawr at lan Llyn Du cyn troi yn ol tua'r gogledd ar hyd ffordd mango arall, ond llawer mwy dramatig y tro yma, i gael cinio yng nghysgod un o'r clogwyni sy'n crogi uwchben. Ymlaen wedyn i gopa Moel Ysgyfarnogod, sgrambl i ben Moel Penolau (ac i lawr), Diffwys y gogledd a Moel y Gyrafolen, lawr i Dyn Twll ac yn ol at y ceir yng Nghae Adda.
Y criw oedd: Myfyr, Sian S, Iolo, Elen, Gwyn, Rheinallt, Mike, Mair, Alun D, Alun Caergybi, Robat, Haf M, John Arthur, a Gwyn Chwilog.
Diwrnod da, diolch i bawb.
Adroddiad gan Myfyr Tomos
Lluniau Gan Myfyr Tomos ar FLICKR