Moel Morfudd a Moel y Gaer 14 Mai
Deg o'r gloch, ac un ar hugain yn cychwyn o Garrog, rhai wedi teithio o bell i ymuno. Croesawyd aelodau newydd – Modlen, Gareth, Marian, Rhiannon ac Osian. Y tywydd yn braf a chynnes.
Aeth y llwybr y tu uchaf i dafarn y Rugiar gan ddringo'n serth drwy'r coed a heibio adfeilion Nant y Madwen. I lawr i'r ffordd wedyn a throi i fyny tua'r dwyrain drwy'r grug a'r llus at Fwlch y Groes gan weld Moel Morfudd yn codi'n serth o'n blaenau. Erbyn hyn roedden ni'n grŵp o 19 am fod dau wedi troi i lawr am Garrog yn y fan yma.
Diddorol oedd clywed Alun yn adrodd am ei brofiad fel ffermwr ar y mynydd yma: roedd coeden mewn cae yn ein hymyl wedi'i tharo gan fellten a redodd ar hyd ffens fetel gan ladd ugain o ddefaid oedd yn cysgodi yn rhes wrthi.
Roedd y llwybr i Foel Morfudd (550 m) wedi erydu'n arw gan feiciau sgramblo yn y gorffennol, ond yn dechrau gwella ar ôl cael sypiau o rug i'w amddiffyn. Clywsom y gwcw yn amlwg wrth inni godi i ben Moel y Gaer (504 m) gan sylwi ar hen ragfuriau'r gaer a'r lle roedd archeolegwyr wedi darganfod olion tai crwn Oes yr Efydd. Roedd y toriadau yn y grug oedd yn gadael cymysgedd o blanhigion hen a newydd yn dangos ymdrech y Gwasanaeth Cefn Gwlad i ddiogelu cynefin y rugiar ddu a'i chywion.
I'r chwith wedyn (gogledd) o'r bwlch ac yna dilyn y llwybr ceffylau nes cyrraedd yn ôl i Fwlch y Groes unwaith eto a throi i'r de-orllewin heibio'r hen chwarel gan gyrraedd Carrog a Thafarn y Rugiar ychydig ar ôl 3-30.
Diolch i bawb am eich cwmni, a diolch arbennig i'r rhai fu'n gymorth i reoli'r grŵp.
Adroddiad a llun gan Gwen