HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cadwyn y Carneddau 14 Mehefin

Arweinydd:  Richard Roberts

Dau gerddwr ar bymtheg a fanteisiodd ar ddiwrnod, a oedd, ar y cyfan yn eitha braf a chynnes. Braf oedd cael cwmni Ffion ac Annest a thri blaswr o Rhuthun: Steve, Robat ac Owain. Y cerddwyr eraill oedd Dafydd, Eirwen, Alun, Adrian, Paul, Gareth Wyn, Gwyn, Eifion, Raymond, Iolo, Gwilym a Richard.

Cychwyn o Glan Dena ac esgyn Pen yr Ole Wen ac ymlaen dros Carnedd Dafydd a Bwlch y Cyfrwy Drum cyn oedi i gael cinio, mewn cwmwl, ar gopa Carnedd Llywelyn. Deall ar y ffordd adref bod aelodau eraill o’r clwb yn y cyffiniau ar yr un pryd; Morfudd a Hefin wedi dod o Gwm Pen Llafar a Siân Shakespear a Marged, ei merch,  yn ymbalfalu yn y niwl ar Foel Grach!

Yn ein blaenau i Fwlch Eryl Farchog a chopa Pen yr Helgi Ddu lle buom yn oedi i fwynhau golygfeydd ardderchog. Croesi Bwlch y Tri Marchog cyn esgyn Pen Llithrig y Wrach ac yna ei throi hi am Gapel Curig a pheint haeddiannol.

Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan Richard ar FLICKR