HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cyffiniau Llanbedrog 16 Ebrill

Allai hi ddim bod yn well tywydd na’r hyn a gawsom i’n taith dydd Mercher dwytha, roedd hi’n berffaith i fynd am dro ac adlewyrchwyd hyn yn y nifer oedd wedi casglu wrth Neuadd yr Eglwys yn Llanbedrog. Teimlwn fel y Pibydd Brith wrth i ni ei throedio am gopa Mynydd Tir Cwmwd a 46 o gerddwyr yn fy nilyn yn un llinyn hir.Roedd yr olygfa o’r copa yn werth ei gweld o Fynydd Enlli, Garn Fadryn a’r Eifl, draw i Eryri a hyd bellafoedd Meirionnydd.

Lawr o’r copa at y ddelw haearn sy’n edrych dros draeth Llanbedrog o ben Yr Allt Fawr, hon yw’r drydedd ddelw ers cyfnod Solomon Andrews yn nechrau’r ganrif ddiwethaf pan oedd Plas Glyn y Weddw yn atyniad twristiaid poblogaidd a thram yn cael ei thynnu gan geffylau yn dod yno o Bwllheli. Dilyn Llwybr yr Arfordir trwy’r Winllan, heibio i’r Plas ac ar hyd traeth Llanbedrog i gyfeiriad Pwllheli gan ddilyn llwybr y tram am bwl.

Cawsom ein cinio cyntaf wrth adfail Tyddyn Caled cyn troi am y tir a chroesi’r morfa am Benrhos a dilyn llwybr y Brynia gymerodd ‘y tri’ fu’n llosgi’r Ysgol Fomio ym 1936. Cyrraedd pen y Brynia a’r olygfa wedi newid a ninnau’n edrych dros bentref Rhydyclafdy a’r Gors Geirch.
Cawsom ganiatad parod Robert David ym Melin Cefn Llanfair i groesi’r afon dros bont yn ei ardd ac yna ei gwneud hi am Goed y Wern a’r briallu a’r blodau gwynt yn ddigon o sioe. Ymlaen trwy iard Plasdy’r Wern Fawr a’n hail ginio ar lôn drol sy’n arwain i fferm Crugan.

Ymweld â bedd Gwenogfryn Evans, un o sylfaenwyr y Llyfrgell Genedlaethol, ysgolhaig ac argraffwr llawysgrifau cyn mwynhau panad a chacan ym Mhlas Glyn y Weddw i orffen y daith. Diwrnod gwerth chweil a Llŷn wedi dangos ei hun ar ei orau i ni i gyd.

(Ymddiheuriadau am beidio cynnwys enwau’r holl griw!!!)

Adroddiad gan Gwenan

Lluniau gan Gwenan a Iolo ar FLICK