HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Bontddu 16 Gorffennaf


Diwrnod llwydaidd a chymylog, yng nghanol wythnos o dywydd braf iawn, a gafwyd ar gyfer y daith i rai o gymoedd ardal y Bont-ddu ond o leiaf cadwodd y glaw draw tan ganol prynhawn!

Wedi cyfarfod ger y Drofa Goch ar gyrion y pentref (gyda rhybudd y byddai cosb lem am ddefnyddio enw Saesneg y mapiau, Fiddler's Elbow), dilynwyd llwybr serth drwy goedydd Pen-gribin a Garth-gell, coedydd dan berchnogaeth y Gymdeithas Gwarchod Adar, ond llwybr a oedd yn fuan yn datgelu golygfa wych tuag at Lyn Penmaen ac i fyny dyffryn Mawddach i gyfeiriad Dolgellau er bod Cadair Idris a'r ddwy Aran dan gwmwl. Roeddem bellach ar lethrau Cwm-mynach ac wedi cyrraedd hen ffermdy Garth-gell rhaid oedd dringo eto i gyrraedd y gefnen yn arwain i Gwm Hirgwm a chyfle am baned cyn disgyn at dŷ'r Clogau, tŷ a adeiladwyd ar gyfer rheolwr, neu gapten, y gwaith aur.  Ar ddiwrnod mwll, ac wedi peth brwydro drwy redyn i gyrraedd yno, braf iawn iawn oedd mwynhau'r awel oer wrth i ni fusnesa yn un o agorfeydd y gwaith.

Cerdded hamddenol wedyn ar hyd caeau Tŷ'n Cornel i gyrraedd Pont Tynglan (neu Tŷ-yng-nglan-yr-afon) a sylwi yno ar hen sgubor (sydd bellach wedi ei addasu'n dŷ gwyliau) ond a adeiladwyd yn wreiddiol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif fel eglwys - ond eglwys nas cysegrwyd oherwydd bu farw'r prif noddwr ychydig cyn ei hagor.  Ychydig yn is na'r bont, gwelwyd olion prif waith aur y Clogau a sylwi bod dau yn gweithio yno; mae gwaith archwilio am ragor o aur ar fynd mae'n debyg.  Cerdded wedyn i ben ucha'r cwm heibio ffermydd Hendre-forion, Ffridd Ddu a Chae Goronwy a chael cinio fel roedd yn dechrau bwrw o ddifri'!  Croesi wedyn i'r trydydd cwm tuag at ardal Caerdeon ac edrych i lawr drwy'r coed at eglwys a adeiladwyd yn 1862 ar ffurf eglwys fynyddig o ardal y Basg gan bensaer o'r enw John Luis Petit a oedd yn frawd-yng-nghyfraith i berchennog plasdy Caerdeon, y Parch. W.E. Jelf, bonheddwr o Sais a chymrawd o Goleg Crist, Rhydychen a ymddeolodd yno yn 43 mlwydd oed.  Achosodd adeiladu'r eglwys hon gryn gythrwfwl ar y pryd gan mai eglwys breifat ar gyfer Jelf a'i ymwelwyr fyddai hi, gyda gwasanaethau yn Saesneg, er nad oedd eglwys o gwbl ym mhentref y Bont-ddu gerllaw.  Dywedodd rheithor plwyf Llanaber, y Parchedig John Jones, na fyddai'n cynnal gwasanaethau Saesneg yno a chafodd gefnogaeth nifer o eglwyswyr eraill.  O ganlyniad sefydlwyd 'Caerdeon a Bont-ddu' fel rhyw fath o is-blwyf a phenodwyd offeiriad ychwanegol ac arweiniodd hefyd at ddeddf seneddol yn 1863 yn datgan y byddai'n ofynnol i unrhyw offeiriad plwyf gynnal gwasanaethau yn Saesneg pe byddai deg neu fwy o blwyfolion yn gwneud cais am hynny.  Yn ddiweddarach daeth y plasdy yn eiddo i Samuel Holland, perchennog chwareli ym Mlaenau Ffestiniog ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd.  Claddwyd ef yng Nghaerdeon dan feddfaen sylweddol, nodweddiadol o uchelwyr y cyfnod.  Pan ofynnwyd untro pam bod angen beddfeini mor fawr ar eu cyfer cafwyd yr ateb bachog "rhag ofn i'r diwaliaid ddringo allan"!

Diweddwyd y daith ar hyd llwybr uchel yn edrych i lawr tua'r Fawddach a phont y Bermo yn y pellter a thrwy goed y Geuos yn ôl i'r Bont-ddu. Y pymtheg ar y daith oedd Anet, Gwyn, Gwenan, Gwilym ac Arwyn o Lŷn/Eifionydd, Dafydd o Ddinbych, John Arthur, y ddau John Port (Williams & Parry), Gareth Tilsley, Alan Hughes a Jane, Liz, Angharad ac Eryl o Benmachno.

Adroddiad: Eryl

Lluniau: Gwenan