HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Yr Hydd a'r Ddau Foelwyn 16 Awst

Ar ôl manteisio ar ddanteithion y 'refreshment room', roedd wyth aelod ar dren araf deg pob stesion am 10:50 o Tan-y-bwlch i Dan-y-grisiau - am gost yr un o £2, lle oedd aelod arall yn ein disgwyl. Rhan o ramant y Moelwynion yw'r hen chwareli llechi. Felly o Ddolredyn aethom trwy Gwmorthin a gweiddillion chwarel canolig ei maint. Ers ymweliadau cyntaf y Clwb i'r cwm mae to'r hen gapel wedi cwympo. Wedyn ar hyd y llwybr cert a adfeilion chwarel Rhosydd. Unwaith eto yn dyddiau cynnar y Clwb roeddwn yn amlach na beidio yn mentro o dan ddaear - ond dim erbyn heddiw !

Ymlaen aethom, ac o gopa Moel-yr-hydd 'roedd y golygfa yn un trydanol - Llynnoedd Stwlan, Ystradau a Thrawsfynydd. Araf deg oedd y tramwyo i fyny Moelwyn Mawr cyn ddisgyn dros Graigysgafn i Fwlch Stwlan ac dringo drwy ddrws cefn Moelwyn Bach. Yn y niwl roedd rhaid ymarfer gyda'r cwmpawd er mwyn darganfod y gwir gorllewin a'r crib graddol at y lôn gefn rhwng Groesor a Than-y-bwlch. Yn anffodus, erbyn cyrraedd yn ôl at y stesion 'roedd  y 'refreshment room' wedi cau ac roedd rhaid bwrw ymlaen at y sefydliad hwylus nesaf - yr 'Oakley Arms' er mwyn trafod mwynhad y diwrnod."

Adroddiad Clive