HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib y Rhinogydd 17 Mai

Gyda'r haul yn tywynnu drwy'r dydd ond awel fain hefyd yn ein harbed rhag chwysu gormod, cafwyd diwrnod delfrydol i fwynhau Crib y Rhinogydd, taith o rhyw 17 milltir a thua 1745 medr neu 5720' o ddringo.  Wedi cyfarfod ger yr Atomfa, symudwyd ymlaen mewn dau gar i faes parcio bach newydd a hwylus yr ochr draw i'r llyn (cyfraniad gwirfoddol at y tîm achub mynydd lleol) ger Moelfryn Isaf (SH 683 361) gan gychwyn cerdded i fyny'r llwybr ger Tŷ'n Twll i Fwlch y Moch.  Cyn hir roeddem yn mwynhau golgyfeydd gwych oddi ar copaon Moel y Griafolen, Moel Penolau a Moel Ysgyfarnogod - y copa uchaf (623 medr) yng ngogledd y Rhinogydd - ac yn rhyfeddu at droadau'r creigiau ac ambell glogwyn annisgwyl yn disgyn o'n blaenau - lle dyrys eithriadol i hel mynydd!  Lawr wedyn i Fwlch Gwylim (yn ôl sillafiad y map) ac ar hyd Craig Wion hyd at Fwlch Tyddiad, a'r Grisiau Rhufeinig enwog gan sylwi ar y gwahanol lynnoedd - Llyn Du, Corn Ystwc, Twr Glas, Pryfed a Morwynion - rhai yn unig o'r nifer fawr a welwyd ar y daith.  Cafwyd cinio brysiog ym Mwlch Tyddiad cyn wynebu'r dringo serth i gopa Rhinog Fawr  (720 m) heibio glannau dwyreiniol Llyn Du ac yna'r disgyn yr un mor serth i Fwlch Drws Ardudwy. Seibiant arall haeddiannol ac angenrheidiol yno gan fod dringfa hira'r dydd o'n blaenau - dros 350 medr i gopa Rhinog Fach (712 m) gan ddewis y llwybr o ben y Bwlch yn hytrach na heibio Llyn Cwmhosan. Wedi disgyn i'r bwlch rhwng Llyn Hywel a Llyn y Bi (ynganer fel Moelyci yng nghân Steve Eaves!), roedd angen codi eto i grraedd copa ucha'r dydd, Y Llethr (756 m) ond gwybod wedyn bod yn rhannau anoddaf drosodd.  Wedi tir creigiog a chwbl di-lwybr yn aml cyn hynny, braf iawn oedd troedio ar garped o wair a mwsog i'r Diffwys (750 m) a chario ymlaen i gyfeiriad Llawllech cyn troi i lawr (o bwynt SH 644 226) ar hyd y gefnen a nodir fel Braich ar y map i gyrraedd y ffordd ym mhen ucha' Cwm Hirgwm.  Yno roedd car yn barod i gludo'r gyrrwyr yn ôl i Traws ond y gweddill yn gorfod cerdded i lawr i'r Bont-ddu a cheisio llymaid yn yr Halfway i aros y cerbydau!  Diweddwyd y dydd gyda phawb ynghŷd am bryd o fwyd a chroeso cynnes teulu o Gymry sydd newydd gymryd y dafarn.  Gwnaed yr un daith rhyw bymtheg mlynedd yn ôl mewn 12 awr union a'r nod y tro yma oedd gwneud cystal - a do, llwyddwyd gyda rhyw chwarter awr yn weddill!

Cafwyd cwmni Sian (Port) hyd at Fwlch Tyddiad - galwadau eraill yn golygu na fedrai ddod ymhellach - a chwblhawyd y daith gan naw, sef Raymond (Llanddoged), Gareth Wyn, Gareth 'Rynys, Elen Huws, Morfudd, Iolo Roberts, Manon, Paddy Daley o Gaerdydd (croeso arbennig i'w daith gyntaf yn y gogledd gyda'r clwb a gobeithio iddo gysgu'n fodlon yn ei babell!) ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Iolo (Roberts) ar FLICKR