HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ymarfer sgiliau map a chwmpawd 18 Ionawr


Ar fore digon gwlyb, cyfarfu naw aelod ger Penstryd, Trawsfynydd i ymarfer ychydig ar eu mordwyo. Gan fod y tywydd mor wlyb, penderfynwyd mynd i Gapel Cae Adda, canolfan Tim Achub Mynydd De Eryri i wneud tipyn o waith map elfennol. Erbyn diwedd y bore 'roedd wedi sychu ychydig felly yn ôl am Fynydd Penstryd i roi y theori ar waith. Fyny am Lyn Gelli Gain (Llyn Lligan), Pig Idris a'r Foel Ddu. Gwynt a cawodydd reit drwm ond dim digon o NIWL! Pawb i'w gweld wedi mwynhau a gobeithio wedi elwa o'r diwrnod. Di-briff dros beint bach sydyn yn Rhiw Goch wedyn. Diolch i bawb, yn arbennig i Arwel am arwain un grŵp.

Y criw oedd: Myfyr, Arwel, Sioned, Rhiannon, Iolo, John P, Dafydd (Legal), Haf ac Elen.

Adroddiad gan Myfyr

Lluniau ganMyfyr ar Flickr