HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Coedwig Gwydir 19 Tachwedd



Cyfarfod wrth felin wlân Trefriw cyn esgyn yn raddol drwy Goed Comanog i gyfeiriad Llyn Geirionydd cyn cael seibiant uwchben gwaith plwm y Klondyke, lle honnodd yr enwog Joseph Aspinall fod y mynydd yn llawn o arian!  Ymlaen wedyn i waith plwm Pandora heibio i gofgolofn Taliesin a mangre Arwest Gwilym Cowlyd.  Wrth felin arnofio olew'r cwmni Eagle Lead cafwyd hanes Dilys Cadwaladr gan Gareth a Gwyn.  Cerdded dros argae Llyn Glan Gors i Ben y Gwaith i gael cinio lle gwenodd yr haul.

Disgyn wedyn drwy waith yr Hafna; yma mae olion yr unig ffwrnes blwm a adeiladwyd yn y goedwig.  Dilyn hen lôn drol a llwybrau drwy goed Ffridd Siân i lawr i'r Ysgubor Wen cyn croesi'r ffordd fawr a cherdded ar ben llif glawdd yr afon Gonwy yn ôl i Drefriw.  Ganrif yn ôl roedd yr afon yn llawn bwrlwm hefo llongau pleser yn teithio o Gonwy i Drefriw a thunelli o lechi a phlwm yn cael eu hallforio i bob rhan o'r byd.

Da gweld cynifer o bobl wedi dod draw i Ddyffryn Conwy i fwynhau lliwiau hydrefol y goedwig ar ddiwrnod mor braf.

Adroddiad gan Arwel Roberts

Lluniau gan Gwenan ar FLICKR