Pedol yr Wyddfa 21 Mehefin
Ymunodd 12 o aelodau gyda mi ar hirddydd haf i fentro ar Bedol yr Wyddfa, sef Ann Till, Osian a Rhiannon,Iolyn,Robert (ar ei daith gyntaf gyda’r clwb ac yn un o’n haelodau ieuengaf yn 17 oed) Dafydd, Anet,Eryl, Gareth Wyn, Sioned, Alun (Caergybi) ac Eirwen. Tra roedd 10 ohonom wedi dod ar fws neu ar droed o gyfeiriad Pen y Gwryd, roedd Alun, Eirwen a Sioned yn dod o gyfeiriad Llanberis. Yn anffodus gan fod eu bws yn hwyr bu’n rhaid cychwyn hebddynt.
Roedd y tywydd yn braf er gwaetha awel eitha hegar ar adegau a chan ei bod yn ddydd Sadwrn hefyd, roedd yn amlwg wrth i ni gychwyn ar lwybr y PYG o Ben y Pass y byddai yn ddiwrnod prysur iawn ar yr Wyddfa. Yn fuan wedi troi ym Mwlch y Moch am y Grib Goch cyrhaeddodd y 3 oedd ar ôl atom, ac felly roeddem yn griw llawn yn cyrraedd copa’r Crib Goch.
Criw sylweddol o bobl ar y grib (gan gynnwys Paul, un o aelodau eraill y clwb) ond buom yn reit ffodus i allu ei chroesi heb ormod o oedi gydag Alun, Ann a Rhiannon yn gwneud hynny yn ddi-drafferth am y tro cyntaf.
Cyfle am baned a mwynhau’r golygfeydd ym Mwlch Coch cyn dringo eto i gopa Carnedd Ugain. Oddi yno gweld hofrennydd yn hedfan yn isel o gwmpas copa’r Wyddfa a’r heidiau o bobl oedd yn gwneud eu ffordd i’r copa o wahanol gyfeiriadau.
Ymlaen wedyn i gopa’r Wyddfa ac fel dyweddodd un o’n cyd-gerddwyr, roedd fel Picadilly Circus yno gyda channoedd o bobl gan gynnwys torf fawr yn gwrando ar y canwr Mike Peters (o’r grwp Alarm gynt) yn canu ger y caffi!
Arhosom ni ddim yn hir ar y copa prysur cyn mynd ymlaen am y Lliwedd. Rhan uchaf Llwybr Watkin yn reit annifyr i’w gerdded ond o hyn ymlaen roeddem wedi cefnu ar yr heidiau niferus o bobl. Paned arall cyn sgramblo i gopa’r Lliwedd. Ar y ffordd i lawr, ffarweliwyd â Iolyn ac Ann a aeth i lawr i gyfeiriad Nant Gwynant lle ‘roedd car Iolyn. Cawsom seibiant olaf y dydd yn yr haul ger Llyn Llydaw. Cwblhawyd y daith ar lwybr y Mwynwyr yn ôl i Ben y Pass. Yno roedd yr olwyn wedi troi gan fod bws yn disgwyl i gario Alun, Eirwen a Sioned yn syth i lawr i Lanberis ond dim sôn am fws i Ben y Gwryd ac felly bu’n rhaid i ni gerdded i lawr at ein ceir.
Diwrnod difyr a diolch i pawb am eu cwmni.
Adroddiad Iolo
Lluniau gan Sioned ag Anet ar FLICKR