Y Glyder Fawr a'r Garn 22 Tachwedd
Ymunodd 16 o aelodau gyda mi ar gyfer y daith i fyny’r Glyder Fawr a’r Garn - Alun Caergybi, Dafydd, Dewi Hughes (wedi teithio i fyny o’r de), Eirwen, Eryl, Gaenor, Gareth Everet, Gareth Wyn, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Morfudd, Myfyr, Nic, Raymond, Richard a Sian. Maes parcio Nant Peris oedd y man cyfarfod gyda’r bwriad o ddefnyddio bws Sherpa i gyrraedd Pen y Pass. Yn anffodus roedd y gwasanaeth yma wedi ei gwtogi dros fisoedd y gaeaf a bu’n rhaid trefnu ceir i gyrraedd y man cychwyn. Beth bynnag, roedd pawb wedi ymgynnull ym Mhen y Pass erbyn 9.45 ac yn barod i gychwyn.
O’r maes parcio croesom y ffordd a dilyn y llwybr gydag ochr yr Hostel Ieuenctid i gyfeiriad Llyn Cwmffynnon. Ar ôl ychydig troi tua’r gogledd orllewin a dilyn llwybr (gwlyb iawn o dan draed ar adegau) i gopa’r Glyder Fawr. Wrth ennill uchder fe ddirywiodd y tywydd a bu’n rhaid aros i wisgo dillad glaw. Roedd y llwybr yma yn un distaw iawn a welson ni neb ar y ffordd i fyny; roedd amryw o’m cyd-gerddwyr yn dweud iddyn nhw ddod i lawr y ffordd yma yn y gorffennol ond erioed wedi ei ddefnyddio i fynd i fyny.
Llwyddwyd i gyrraedd copa’r Glyder Fawr erbyn tua 11.30 a bellach roedd y tywydd wedi cau go iawn. Cawsom baned sydyn yn cysgodi o’r gwynt a’r glaw cyn cychwyn i lawr am Lyn y Cwn. Wrth lwc collwyd neb yn y niwl trwchus! Dringo i gopa’r Garn wedyn a’r tywydd yn dechrau gwella. Cafwyd paned arall ar y copa yno cyn ail-gychwyn.
Gan ei bod yn eitha cynnar, y tywydd yn gwella, ac Elidir Fawr i’w gweld yn ymddangos o’r cymylau penderfynwyd mynd amdani. Yn wir fe aeth 7 egniol i fyny’r Foel Goch hefyd tra’r anelodd 10 ohonom yn syth am gopa’r Elidir. Ail-gynullodd pawb ar y copa am sgwrs a phaned olaf cyn cychwyn y ddisgynfa hir i lawr i Nant Peris. Roedd nifer yn aros ymlaen ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol yng Ngwesty’r Victoria, Llanberis gyda’r nos.
Yn anffodus, wrth ddod i lawr Elidir Fawr cafodd Dafydd godwm a brifo ei glun. Diweddodd y dydd yn Ysbyty Gwynedd lle bu’n rhaid iddo gael triniaeth. Y newyddion da yw ei fod yn gwella.
Diolch i bawb am eu cwmni.
Adroddiad gan Iolo Roberts
Lluniau Gan Myfyr Tomos ar FLICKR