HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd Blaen Nanmor a'r Cnicht 25 Hydref



Dyma ddeuddeg ohonom yn ymgynnull wrth gornel y ‘penelin’ ar lôn gefn Blaen Nanmor a chychwyn am fwlch Llyn Edno. Drwy igam ogamu i fyny’r llethrau ar hyd ochr Afon Edno esgynom yn o handi, yn y ffydd bod y tywydd am godi yn unol â rhagolygon y ‘metoffis’.

Erbyn cyrraedd y bwlch roedd yn amlwg bod y tywydd wedi cau amdanom â’r gwynt yn hyrddio’n rheolaidd nes i fat eistedd sawl un fflîo wrth i ni gael paned yno. Ar ôl cyrraedd consensws, twt, dyma ni’n troi tua’r de a stompio’n ffordd trwy’r clytiau o figwyn a chrawcwellt gwlyb domen ar hyd yr Ysgafell Wen.

Wedi hoe cinio cynnar mewn man cysgodol aethom yn ein blaenau nes cyrraedd pwynt yn y ffens lle'r oedd llwybr i fod i gychwyn tua’r gorllewin am y Cnicht. Gan nad oedd y llwybr i’w gweld yn unman dyma Myfyr a finnau’n cymryd bêring cwmpawd yr un a chychwyn trwy’r niwl. Awgrymwyd gan ambell aelod y buasai’n syniad troi lawr heibio Llyn yr Adar a nôl am y ceir, ond gan fod y llwybr ar hyd y gefnen fach isel, ymhen hir a hwyr, wedi dod i’r amlwg gwnaethom ddyfal barhau tua Chnicht. Wrth nesáu am y copa sylwais ar glwt bach sgleiniog fel drych trwy'r niwl a ddangosai bod pelydryn bach tenau tenau, o haul yn adlewyrchu oddi ar bwllyn rhywle o'n blaenau. Dyma Myfyr yn sôn mai tamaid o'r Dwyryd oedd hi ac yn ara’ ara’ deg dyma'r niwl yn dechrau codi, fel llen ar flaen llwyfan, i ddatgelu’r wlad fendigedig o’n cwmpas – o’n blaenau tua'r aberoedd a'r môr, i’n de dros Nant Gwynant ac yn ôl dros yr ucheldiroedd gyda’r llynnoedd yn frith hwnt ac yma ar hyd-ddynt.

Roedd yn werth pob cam gwlyb stomplyd i weld y golygfeydd godidog a chlywed y criw yn ebychu arnynt. Cawsom sypreis o weld Gwyn Chwilog yn aros amdanom ar y copa a ddaru o ymuno gyda ni am ychydig cyn i ni droi lawr am Gelli Iago a’r ceir.

Diolch i Gwyn Llanrwst, Gaenor a Gareth, Leusa, Eirwen, Alun Caergybi, Myfyr, Jeremy, Gwen Richards a Iolo am eu cwmni.
                                          
Adroddiad gan Sian

Lluniau gan Myfyr ar FLICKR