Y Gylchedd a Chwm Hesgyn 27 Medi
Casglodd dwsin o aelodau wrth Bont Mynachddwr( Pont Nantgau yn lleol!) fore Sadwrn; Eryl, Gareth Wyn; Gareth ’Rynys; John Arthur, John Williams ( John Port !), Anet; Judith o Benrhyncoch; Gwen o Rhuthun; Gareth & Gaenor ( Everets !), Raymond Llanddoged a minnau.
Doedd darogan tywydd Rhian Haf ddim yn gywir, ac yn anffodus cafwyd glaw mân a niwl trwy’r bore, ond yn naturiol wnaeth hynny ddim pylu dim ar frwdfrydedd y criw!
Dringwyd trwy fuarthau Nant Hir a Maesgadfa i gopa Craig y Garn. Ymlaen ac i lawr a chroesi Afon Hesgyn. Dringo wedyn yr holl ffordd i gopa Carnedd y Filiast, gan fynd heibio Foel Boeth a’r Brottos. A ninnau ar gopa Carnedd y Filiast, ciliodd y niwl a’r glaw wrth inni gael cinio, gan adael Eryri o’n blaenau yn y pellter ac Ysbyty Ifan wrth ein traed i’r Gogledd.
Aed ymlaen tua’r Dwyrain ar hyd ffiniau yr hen siroedd Dinbych a Meirionnydd, cyn troi yn ol tua’r De, ac i gyfeiriad Cwmtirmynach. A ninnau ym mlaen Cwm Hesgyn, troi tua’r Gorllewin, gan ddilyn llwybr heibio Llyn Hesgyn a dringo ysgwydd Craig Ddu tua Bwlch Graeanog. Wedi i rai biciad i gopa y Graig Ddu, cerdded i lawr y ffordd tua Nant Hir ac yn at y ceir.
Gobeithio fod pawb wedi mwynhau’r daith yn un o gymoedd mwyaf diarffordd ac anghysbell Cymru.
Adroddiad gan Gwyn Williams
Llun gan Eryl