HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Beicio yn Llŷn ac Eifionydd 29 Mawrth


Lluniau gan Anet ar FLICKR CLWB MYNYDDA CYMRU

Cychwynodd y teithiau o faes parcio Llanystumdwy mewn ychydig o law ond erbyn y bedal gyntaf roedd wedi peidio.

Roedd y daith hir am Aberdaron yn cynnwys Dei, Eryl, Gareth, Maldwyn P, Maldwyn E, Raymond, Tegwen, Medwyn a Dyfrig. Dim Llawer o siared cyn Y Ffôr, pawb yn mynd yn hamddenol.  I ffwrdd a ni am Forfa Nefyn, Edern, Tudweiliog ac allan i Pen Groeslon.  Troi wedyn am Fethlem ac ymlaen i Anelog.  Penderfynu mynd i Uwchmynydd i weld Ynys Enlli yn ei gogoniant ond sylwi yn fuan bod y criw o naw wedi mynd yn wyth!!   Roedd beic Maldwyn E wedi rhoi'r ffidil yn y to a bu rhaid iddo ddal bws yn ôl o Aberdaron.  Aeth y gweddill ohonom i fyny am Rhiw ac ymlaen i Llangian, Llanengan ac Abersoch.  Hel i am adre wedyn drwy Bwllheli.  Roedd rhaid stopio  hanner milltir cyn gorffen,Maldwyn (arall!!) wedi cael pwnjar. 58 milltir.

Taith Eifionydd 28 milltir.Roedd 'na 7 ohonnon ni ar y daith sef Meira, Anet, Rhian, Clive, Rhiannon, Gwen R a Cheryl. Cychwyn am Langybi wedyn Pencaenewydd, Pentreuchaf a Rhosfawr. Cinio a sebiant yn Tyddyn Sachau. Ymlaen a ni i lawr i Abererch. Cafwyd ymweliad sydyn â Neuadd Canoloesol Pennarth Fawr ac ymlaen i Chwilog ac ar hyd ffordd gefn i Plas Dalhenbont ac adre.

Gorffennodd y teithiau efo peint a bwyd o flaen tanllwyth o dan yn nhafarn y Plu.

Adroddiad Dei a Cheryl Jones

 

Beicio yn Llŷn

Dwy olwyn am Dudweiliog;
dau deiar gweld blodau’r gog.
Padlo drwy Geidio i gân
hedydd oedd gynt yn fudan.
Ffroeni gweirdir Rhoshirwaun
ar jig a chliciadau’r jaun.

Blasu’r hydref yn Nefyn;
Abererch y traeth a’r bryn;
hafau’r Rhiw; gaeafau Rhyd;
glan union afon hefyd;
rhosydd; pontydd y pentir –
wrth feicio mae teimlo’r tir.

Enw difyr hen dafarn,
enwau giatiau godrau’r Garn
ac enwau ein hogiau ni
yn fynych ar lechfeini –
enwau na welwn mo’nynt
o gar yn mynd fel y gwynt.

Cynganeddu i lyncu’r lôn:
dau air yn Aberdaron
yn llinell erbyn Llannor;
creu mydr rhwng y beic a’r môr –
swae a sbin, a’r cocos bach
yn gryf mewn gêr arafach.

Fe gei daith heb fwg o din,
lôn aur drwy lên y werin;
lôn braf – y lanaf drwy Lŷn;
lôn ystwyth i Laniestyn;
lôn fy meic sy’n Gymreiciach,
lôn hardd, lôn werdd a lôn iach.

Myrddin ap Dafydd (o Lanw Llŷn)