HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bontddu i'r Bermo 6 Mehefin


Ar ddydd Sadwrn y 6ed o Fehefin eithaf braf, gwyntog ond braidd yn siomedig o ran tymheredd am fis Mehefin, cyfarfu chwech ohonom yn Y Bermo i wneud y daith hon.

Wedi dal  bws 9:50 am Bontddu, dechreuwyd trwy gerdded i fyny o’r gilfan ar ôl y pentref, gan ymuno â llwybr yr R.S.P.B.. Cafwyd golygfeydd godidog o Gadair Idris a’r Fawddach yma ac acw rhwng y coed. Ymlaen am dŷ Garth Gell, ble ‘roedd yn rhaid troi o Gwm Mynach ,gan fynd heibio hen waith aur y Clogau am Gwm-llechen,  heibio’r hen olchfa ddefaid a thros yr hen bont gerrig hynafol. Ymlaen wedyn am fferm Hendre Forion a thros y bont sy’n croesi afon Hirgwm. Dilyn y ffordd i fyny’r cwm, gan droi am y llwybr sy’n rhedeg gyda’r goedwigaeth cyn dilyn y llwybr am Gae-mur Hywel. Troi oddi ar y ffordd yno, am lwybr drwy’r goedwig , cyn croesi’r ffordd am lwybr oedd yn arwain am fferm Sylfaen. Troi ger Sylfaen i weld Y Cerrig Arthur hynafol sy’n dyddio’n ôl i ddau fileniwn Cyn Crist, ac oddi yno troi i ymuno â llwybr Taith Ardudwy gyda golygfeydd gwych o aber yr afon Mawddach. Disgyn lawr am Y Bermo wedyn, heibio adfeilion Cellfechan a’r hen weithfeydd mango.  Yn y Bermo  cafwyd paned a chacen haeddiannol.

Diolch yn fawr i Anet, Gwyn (Chwilog), Rhian (Llangybi) a Sioned am fod yn gwmni gwych i Iolyn a minnau ar y daith.

Adroddiad gan Eirlys   

Lluniau gan Eirlys ar FLICKR