Yr Arenig Fawr 7 Chwefror
Daeth wyth ohonom ynghyd wrth droed yr Arenig ar fore cymylog. Rhoddodd John Williams , Porthmadog, Rhys Dafis, Myfyr Tomos, Eirwen Williams, Alun Hughes, Alun Caergybi a minnau groeso cynnes i Dewi Hughes o griw mynydda y De i ymuno gyda ni. Doedd neb yn siwr o ragolygon y tywydd, ond roeddem yn dawel obeithiol !
Wedi cyrraedd pen deheuol y llyn , gwelsom yr awyr las yn dod yn fwy amlwg, a buan iawn wrth ddringo y daethom i sylweddoli fod hwn i fod yn ddiwrnod arbennig. Roedd trwch da o eira, ond ychydig iawn o rew, ac oherwydd hynny, cerdded yn rhwydd. Ar y llethrau cyn y grib , daethom ar draws Bras yr Eira, aderyn hardd, ond a ymddangosai yn ddof iawn.
Ymlaen i’r copa, gyda golygfeydd rhagorol o gopaon Eryri i gyd, ond gyda’r cymoedd a’r dyffrynoedd mewn niwloedd trwchus. Roedd lle i gredu fod y niwl yng nghyfeiriad Llyn Tegid a Glanllyn yn fwy trwchus!!
Wedi egwyl i ryfeddu ar y golygfeydd ar y copa, aed ymlaen i gyfeiriad y de, gan barhau i ryfeddu ar y golygfeydd. Wedi disgyn i’r cwm rhwng yr Arenig a Moel Llyfnant, ac wedi i John Williams gael paned arall, penderfynwyd nad oedd diben esgyn i gopa Moel Llyfnant, a oedd mewn niwl trwchus erbyn hyn. Hefyd roeddem wedi oedi llawer i ryfeddu ar y golygfeydd ar y copa, a phawb yn gytun y byddai’n cymryd o leiaf awr a hanner yn ôl i’r ceir trwy Amnodd Wen.
Yn ôl wrth y ceir yng nghysgod y chwarel, roedd pawb yn gytun inni gael diwrnod arbennig iawn. Diolch i’r criw am gefnogi.
Adroddiad gan Gwyn
Lluniau gan Gwyn a Myfyr ar FLICKR