HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Siabod - a'r Cinio Blynyddol 7 Tachwedd

Wrth deithio yn y bore o Nant Peris am Ben y Pass mewn  glaw trwm roeddwn yn ceiso dyfalu faint  o aelodau dewr (ynteu ffol!) fyddai ‘n ymuno a mi yng Nghapel Curig ar gyfer y daith i fyny Moel Siabod. Yr unig lygedyn  o oleuni oedd bod y rhagolygon tywydd yn son y byddai’r  glaw yn peidio am gyfnod yn hwyrach ymlaen yn y bore ac felly roeddwn am awgrymu yn y man cyfarfod yn maes parcio Bryn y Glo (os y byddai rhywun yno! )ein bod yn mynd am baned i ddisgwyl i’r gwaethaf o’r glaw fynd heibio.

Fodd bynnag, erbyn cyrraedd Capel Curig roedd y glaw yn arafu a phan oeddem yn barod i gychwyn at y deg  o’r gloch, roedd wedi peidio.  Er syndod  fe ymunodd 14 o aelodau a mi (gan gynnwys dau o’r de yn barod am  y Cyfarfod Blynyddol.)  Cychwynnwyd yn syth i fanteisio ar y  seibiant sych. Wrth fynd dros Bont Gyfyng rhyfeddu ar ddŵr tymhestlog yr afon Llugwy oddi tanom cyn dringo’r ffordd serth ac ymuno a’r llwybr a fyddai’n ein harwain am Foel Siabod. Cawsom  ambell i gip o awyr las uwch  ein pennau ac roeddwn ynfy  llongyfarch fy hun am lwyddo i amseru ‘r daith yn dda ac yn mawr  obeithio y byddem yn ei chwblhau cyn iddi waethygu eto . Nid fel yna y bu yn anffodus. 
Wrth fynd tuag  i fyny roedd y gwynt yn codi ac felly cafwyd paned sydyn yn cysgodi ymysg olion Chwarel y Rhos.  Ymlaen wedyn am Lyn y Foel a’r llwybr erbyn hyn wedi newid yn ffos gyda dŵr yn byrlymu i lawr yn dilyn yr holl law a gafwyd. Prawf da i weld pa mor dda  oedd ein hesgidiau am ddal dŵr.

Wedi dod at Lyn y Foel chwilio am y ffordd lleiaf gwlyb trwy’r tir gwastad corsiog sy’n ymylu a’r llyn nes cyrraedd gwaelod crib y Ddaear Ddu. Dechrau sgramblo i fyny ‘r grib yn ofalus gan fod y creigiau yn wlyb ac erbyn hyn roedd yn bwrw eto.  Wrth i ni ddringo roedd y tywydd yn gwaethygu, y glaw yn mynd yn drymach, y gwynt yn codi a’r cymylau yn isel. Cawsom ginio sydyn jyst cyn cyrraedd y copa, er nad oedd ganddom fawr o gysgod rhag y  glaw, rhag ofn  y byddai’n waeth byth wedi cyrraedd y copa, ac yr oedd! Wnaethon ni ddim loetran ; mynd am y pwynt trig a chychwyn am i lawr yn syth, gyda’r gwynt a’r glaw trwm yn ein dilyn. Erbyn hyn roeddem hefyd wedi llwyddo i gynyddu ein niferoedd gan i ni ddod ar draws criw o bobl ifanc oer a gwlyb oedd yn ansicr o’r ffordd i lawr yn y niwl ac fe ymunon nhw a ni.

Dilyn y llwybr i lawr wedyn i gyfeiriad Capel  Curig.  Roeddem wedi gostwng cryn dipyn cyn i’r glaw ysgafnhau  a chafwyd rhywfaint  o gysgod wrth gerdded ar hyd  ffordd  y goedwig.  Ond erbyn i ni ddod at y llwybr gyda glan yr afon Llugwy oedd yn ein harwain yn ôl at y maes parcio roedd y glaw trwm wedi ail ddechrau a phawb yn falch o weld eu ceir ac o allu neidio i mewn allan o’r glaw. Yn anffodus wnaeth fy esgidiau ddim pasio’r prawf dal dŵr  ar ddiwrnod mor wlyb ac roeddwn yn falch iawn o allu eu tynnu!

Diolch yn fawr iawn i  Alun (Caergybi), Bruce, Eryl, Gareth a Gaenor, Gwilym, Gwyn (Llanrwst), John Arthur, Meirion,Morfudd, Raymond, Richard (Rhuthun) Richard Mitchley  a Sioned Llew am eu cwmni difyr yng nghanol y gwynt a’r glaw!

Adroddiad: Iolo Roberts

Lluniau o'r daith a'r Cinio Blynyddol gan Sioned Llew ar FLICKR