Moel Sych a’r cyffiniau 9 Mai

        
        Dim ond dau arall, Raymond a Gaenor, a ymunodd a mi ar y daith yma.  Mae’n debyg fod y rhagolygon tywydd digalon a’r ardal sydd dipyn bach o’r  neilltu oedd rheswm am hyn. Mae’r daith i gopa Moel Sych yn eithaf syml ac yn  cerdded hawdd. Cychwyn o Langynog, lle parcio hwylus gyda thŷ bach, a chychwyn  am gwm Glan-hafon ond troi i fyny Nant Ddial am y bwlch sydd i Gwm Blowty.  Peidio mynd lawr i’r cwm, dilyn y llwybr dros Graig y Mwn ac i lawr at Nant  Disgynfa, (gellir picio draw i edrych dros y pistyll enwog), ac yna dilyn y  fraich i’r copa. Er gwaethaf y rhagolygon fe gychwynnodd y dydd yn o lew ond  erbyn cyrraedd y copa ‘r oeddem yn y niwl ond dim glaw diolch byth. Tir mawnog  gwlyb sydd rhwng Moel Sych a’r B4391. Mae llwybyr o goed wedi ei greu ar y rhan  olaf ond ar ôl glaw trwm y noson gynt bu yn amhosib cadw’r traed yn sych ar y  rhan gyntaf. Ar ôl croesi’r ffordd mae’r llwybyr yn amlwg i gychwyn ac mae  hefyd llwybyr amlwg i fynd i lawr Cwm Rhiwarth i Langynog ond nid dyna’r  bwriad. Dilyn y ffordd drol ymlaen ac mae pont dros Nant Llwyn Gwern ond o’r  fan yma ymlaen does fawr o lwybr. Mae rhywfaint o hoel gerdded, neu lwybr  defaid, i fynd am y blwch  trosodd i Gwm  Pennant ac ar ôl tua chilometr mae ffens a giât. I lawr yr ochor arall mae llwybyr  yn fwy amlwg am ychydig ond os am fynd at eglwys Llanfihangel mae’n rhaid torri  ar draws i’r dde at giât fechan. Doedd dim hoel cerdded i’w weld ond erbyn hyn  ‘roedd y niwl wedi diflannu a’r haul yn tywynnu a gwelwyd y giât. O’r fan yma  ymlaen mae’r llwybyr yn sychach dan droed ac ar y diwrnod Cwm Pennant yn edrych  yn wych yn yr haul. Wedi cyrraedd y cwm rhaid oedd ymweld â’r eglwys. Mae  gwaith adnewyddu wedi bod ac mae llawer o wybodaeth am yr hen hanes a’r  adnewyddu gyda  lluniau. Mae awyrgylch  braf iawn yn y lle; mae’n werth galw hyd yn oed os nad ydych yn gredwr.  O’r eglwys i Langadog mae’n daith hyfryd  drwy’r cwm ac mae tafarn ar ben y daith
      
        Adroddiad gan  Iolyn
Llun gan Iolyn
