Y Moelwynion 10 Ionawr
Ar ôl tywydd gwael yn gynharach yr wythnos a’r rhagolygon yn anffafriol am y diwrnod, roeddwn yn synnu bod gymaint wedi troi allan. Roedd un ar ddeg ohonom sef Eryl, Raymond, Anest, Iolo, Gareth Efret, Prys, Sioned, Alun H, Eirwen, Alun Caergybi a finnau.
Syrthiodd cawod o genllysg fel roeddem yn barod i gychwyn ac un ohonom yn difaru y buasai wedi aros adref (i drei leinio y stafell molchi). Cychwynom i fyny’r llwybr i gyfeiriad Rhosydd a’r tywydd erbyn hyn yn gwella gydag ychydig o awyr las erbyn cyrraedd y llyn. Cychwyn i fyny yn serth tuag at gopa Moel yr Hydd a chyrraedd yr ysgwydd a phrofi cryfder y gwynt am y tro cyntaf. Penderfynwyd mynd ymlaen lawr i’r bwlch a diolch i Raymond am ffeindio llecyn cysgodol i gael paned.
Aethom ymlaen ar ôl seibiant i gyfeiriad Moelwyn Mawr a’r gwynt yn dal i hyrddio nes cyrraedd y copa; aros ychydig yno gan werthfawrogi y golygfeydd i bob cyfeiriad cyn cychwyn ar hyd y grib i gyfeiriad Bwlch Stwlan lle roedd Myfyr yn disgwyl amdanom, a chael cinio yno cyn cychwyn i gyfeiriad y de i ddringo ysgwydd Moelwyn Bach o’r cefn.
Roedd y gwynt yn dal reit gryf wrth gychwyn lawr i’r bwlch a’r llwybr amlwg lawr i chwarel Wrysgan. Gwariwyd dipyn o amser yno i ryfeddu ac archwilio yn y wahanol dwneli a’r gweithfeydd a Myfyr yn rhannu ei wybodaeth gyda ni. Cawsom ffordd ddiddorol lawr oddi yno, sef lawr yr inclên drwy y twnel a’r llwybr serth nol i’r ceir.
Maen rhaid imi ddweud, pan ofynnodd Eryl imi arwain taith ar y Moelwyn, doeddwn i ddim yn frwdrydig iawn ond mae heddiw wedi profi i mi does dim rhaid anelu at gyfeiriad yr Wyddfa, Ogwen a’r Carneddau i gael diwrnod da a diddorol o fynydda,
I ddiweddu’r diwrnod, cafwyd cwmni pawb mewn tafarn werinol fel y Tap yn Nhan-y-grisiau. Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog.
Adroddiad Gareth Wyn.
Llun gan Myfyr
Nodyn gan Eryl – Balch iawn fod Gareth, o’r diwedd, wedi sylweddoli gwychder mynyddoedd Meirionnydd!