HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelyci 11 Ebrill


Ar fore ffres ond braf o fis Ebrill dyma unarddeg ohonom yn llwyddo ymgynnull yn Sgwâr Pentir, er i gwpl gael trafferth cael hyd i’r lle sydd wedi bod yn fan cyfarfod ers cyfnod y porthmyn! I ffwrdd â ni ar y gwastad tua Fferm Moelyci ac wedyn troi am i fyny trwy’r caeau ac ar hyd ffriddoedd Parc Sling - roeddem am ymosod ar y copa o’r gogledd! Ar ôl seibiant paned ar gyrion coedwig Parc y Bwlch ac edmygu’r golygfeydd dros Fynydd Llandegai, Waun Gynfi a chwarel y Penrhyn tua’r Carneddau a’r Glyderau yn yr heulwen dyma ni’n cychwyn i fyny’r llethrau grugog y tu hwnt i’r wal fynydd. Ymhen ychydig roeddem wedi cyrraedd yr uchelfannau ac ar ôl stopio i astudio’r ‘garreg canon’ roeddem ar y copa go iawn. Ymlaen â ni, nid am Ganan, ond am yr ail gopa sydd â phwynt trig ar ei phen. Yn ôl yr arfer roedd y golygfeydd o’r fan yn ddiguro ond doedden ni ddim yn gallu aros am amser i’w mwynhau oherwydd y gwynt! Diolch i’r drefn, unwaith i ni ddisgyn i lawr ychydig at y rhimyn o graig brydferth sy’n brigo jest islaw roedd digon o gysgod i ni fwyta’n brechdanau’n braf. Wedi i ni sbïo ar ‘Garreg y Gwylwyr’ nepell oddi yno – fedrem ddyfalu’n rhwydd beth oedd pwrpas hon yn ôl y sôn - dyma ni’n rowndio’r Foel ac yn taro ar Gwen Aaron a oedd wedi cael syniad go lew o le a phryd i gwrdd â ni. Bwlch y Mawn gyda’r giât eiconig, sydd yn llyfryn cd Steve Eaves, oedd y nodwedd nesaf i ni ei basio wrth i ni fynd am Barc y Drosgl. Dyma ni’n mynd fesul un ar hyd y llwybr sy’n croesi un o’r lleiniau gorau o rostir grugog yn Arfon! Cawsom gyfle i drafod yr hen arferion o gadw rhostiroedd i saethu grugieir wrth i ni fynd heibio’r rhes o ‘flychau saethu’ sydd ar ei hyd! Moel Rhiwen oedd y copa olaf i ni ei gyrraedd wedi i ni groesi ‘Hafn y Lladron’ –  roedd stori arall yn y fan hyn wrth gwrs. Cawsom ein bendithio gan olygfeydd gwych o’r copa tua’r gorllewin cyn disgyn am ‘Faes Meddygon’ i gael hoe pnawn. Wna i osgoi llenwi gweddill y dudalen hefo hanes y llecyn arbennig iawn yma – yr un y rhannais gyda phawb dros baned, cyn i ni ddisgyn ymhellach i lawr y llechweddau, heibio Rhiwlas ac ar hyd Lôn Plas – y plas sydd wedi hen ddiflannu ond mae’r enw dal yn fyw  – a nôl am y Sgwâr!

Diolch i:
Gwyn Llanrwst, Gwilym Jackson, Eirlys a Iolyn, Eirwen, Al Hughes ac Alun Caergybi, Morfudd, Gaenor, Sioned a Gwen Aaron am rhywfaint o’r daith, am eu cwmni, am wrando ar fy mwydro ac am groesi nifer o waliau a ffensys heb gwyn!

Adroddiad gan Sian Shakespear

Lluniau gan Sian ar FLICKR