HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Rhinogydd o’r dwyrain 11 Gorffennaf


Ar fore cymylog cyfarfu 14 o aelodau ger Greigddu Isa' wrth droed y Rhinogydd. Y rhagolygon yn bygwth glaw  am ddeng munud wedi pedwar felly trwy'r coed a ni, heibio i Bistyll Gwyn ac i fyny am Fwlch Tyddiad cyn troi am Lyn Du. Panad sydyn cyn gweu ein ffordd  trwy'r clogwyni i gopa Rhinog Fawr - off piste go iawn. Cymylau yn mynd a dwad a'r gwynt yn cryfhau felly lawr a ni am Ddrws Ardudwy a llwyddo i wneud hyn heb ormod o "factracio" wrth rhyw lwc. Cinio yng nghysgod y wal yn y Drws gan sbio'n ddigalon ar y ddringfa serth, ddiddiwedd oedd o'n blaena'. Slog go iawn i ben gogleddol Rhinog Fach ond cael ambell gip ar y golygfeydd tra'n croesi'r grib tua'r copa. Y gwynt wedi cryfhau yn sylweddol erbyn hyn ond yn chwalu'r cymylau i ddatgelu Llyn Hywel yn ddramatig iawn odditanom. Dilyn y wal i'r bwlch, lawr at lan Llyn Hywel am banad arall. MISTEC! Pan ar fin ail gychwyn teimlo ambell ddafn o law yn yr awyr felly lawr am Lyn Cwmhosan, ail ymuno a llwybr Drws Ardudwy ac yn ol am y coed. Roedd eisioes wedi troi pedwar. Y glaw yn cyrraedd go iawn fel oedd y coed yn dod i'r golwg..... Hanner awr o gerdded gwlyb trwy'r goedwig a chyrraedd yn ol i'r ceir erbyn hanner awr wedi pedwar. Diolch i bawb - criw hwyliog.

Y criw oedd: Gareth, Gaenor, Haf, Raymond, Annest, Paul (ar ei daith gynta efo'r clwb - croeso) Gwyn Llanrwst, Dewi, Sioned Caernarfon, Sioned Llew, Alun Caergybi, Alun Hughes, Eirwen, a minnau, Myfyr.

Adroddiad: Myfyr

Lluniau gan Myfyr ar FLICKR