HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arfordir Llŷn 13 Mai


Llun gan Haf

Cafodd rhai ohonom fwy o drafferth na’i gilydd i gael hyd i’r maes parcio, ddau gam o draeth Machroes, ond yn y diwedd roedd 27 ohonom wedi ymgynnull ac yn barod i gychwyn.  Roedd y daith cyn belled â Sarn Bach yn dilyn llwybr yr hen lein fyddai’n cario plwm o weithfeydd Llanengan i Benrhyn Du yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  O’r Sarn, anelu am fferm Tŷ Newydd a dilyn yr afon Wenffrwd i Borth Neigwl.  Am weddill y daith roeddem ar Lwybr yr Arfordir, a gan ei bod yn ddiwrnod braf, y môr a’r awyr yn las, roeddem yn gweld yr ardal ar ei gorau.  Erbyn dringo’r  llwybr newydd ar hyd llethrau Cilan a chyrraedd y trwyn roedd pawb yn barod am seibiant a chinio, ac edmygu’r olygfa draw am Enlli, Uwchmynydd a’r Rhiw, ac yn ôl am Borth Neigwl.  Yna dilyn y llwybr o gwmpas Mynydd Cilan, heibio clogwyni Llech y Doll, a’r llethrau erbyn hyn yn garped o flodau’r gwanwyn, bwtias y gog, clustog Fair, seren y gwanwyn a gludlys arfor.  Cip ar yr hen gaer (a roddodd ei enw i Borth Ceiriad efallai) ac ambell un yn falch o’r ffens rhyngom â chlogwyni serth Pared Mawr.  Seibiant arall am baned yng nghae Nant y Big (gyda chaniatâd y perchennog!) a’r olygfa erbyn hyn o fynyddoedd Eryri a Meirion yn y pellter.  Wrth ddringo o Borth Ceiriad am Drwyn yr Wylfa, byw mewn gobaith y gwelem lambedyddiol rhyngom ag Ynysoedd Tudwal, ond ddigwyddodd hynny ddim.  Wrth gyrraedd Penrhyn Du, sylwi ar olion y gwaith plwm, y tŵr lle’r oedd pwmp i dynnu dŵr o’r siafftiau tanddaearol, Cornish Row lle trigai’r mwynwyr ddaeth o Gernyw a’u teuluoedd, a’r tir diffaith heb ddim yn tyfu arno.  Cyrraedd llwybr y lein ac yn ôl i Fachroes wedi cerdded rhyw naw milltir a hanner.  Diolch i bawb am eu cwmni.

Y criw oedd Jane, Nia ac Angharad, Gwenan a Gwil, Rhian Llangybi, Gwen Aaron, Elen a Meira, Gwyn Llanrwst a John Arthur, Gwyn Chwilog, Arwyn, Clive, Nia Wyn a Mair o Sir Fôn, Rhys Llwyd a John Parry LlanfairPG, Gwilym Jackson, Dewi Aber ac Arwel, Alun Caergybi, Gwen Rds, John a Carys Parri, Haf Meredydd a finna, Anet.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Haf a Gwenan ar FLICKR