HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tal-y-fan 14 Mawrth



Talyfan ar hyd llwybrau anghyfarwydd oedd enw'r daith ac yn wir roedd rhan fwyaf y llwybrau yn newydd i ran fwyaf y pymtheg ddaru droi allan.

Cychwyn ynghanol pentref Rowen a throi heibio cofeb Huw T Edwards a thros yr Afon Ro. Dilyn llwybrau hyd y caeau wedyn tan fferm Parciau ac yna codi'n raddol at y ffordd uchaf sy'n arwain at Fwlch y Ddeufaen. Dipyn cyn y bwlch troi oddi ar y ffordd ger Cae Coch a dilyn y llwybr i fyny'r grib at gopa Talyfan.

Roeddem yn falch o gysgod y wal ar y copa i gael tamaid o ginio gan fod gwynt main wedi codi erbyn hynny. Ac er bod y cymylau'n weddol isel roedd yn dal yn bosib gweld haenan o eira ar ben y Carneddau, a golygfa draw at Ynys Mon.

Disgyn i lawr wedyn ar hyd y grib ddwyreiniol cyn ymuno a'r llwybr at hen eglwys Llangelynin. Wedi seibiant byr yno i edmygu'r pensaerniaeth hynafol, mynd yn ein blaenau ar draws dau gae ac arddangosfa annisgwyl o gennin Pedr gwyllt yn eu blodau. Croesi'n ofalus trwy'r cae cennin Pedr ac yna disgyn yn eithaf serth trwy goedwig at Coed Mawr ac ar hyd llwybrau llawr dyffryn at fferm Cefn Cae a chanol y pentref.

Cyn dychwelyd at y ceir cafwyd cyfle i ymweld a Chapel Seion sydd yn un o'r atyniadau ar Lwybr y Pererinion ac i ddiweddu, y Ty Gwyn, lle roedd gem Cymru - Iwerddon yn ei hanterth ar y teledu.

Diolch i Gwyn (Llanrwst), John Arthur, Gwyn (Chwilog), Anet, Sian, Lisa, Dewi (o'r de), Iolo, Dafydd, Iolyn, Eirlys, Rhiannon a Liz (o Rowen ar ei thaith gyntaf) am gadw cwmpeini i Aneurin a finna (Dilys).


Adroddiad gan Dilys

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR