HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Castell Carndochan 14 Hydref




Adroddiad gan Anita Daimond, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd:

Hoffwn ddiolch i Haf o Glwb Mynydda Cymru am y gwahoddiad i rannu gwybodaeth am ein gwaith cloddio diweddar yng Nghastell Carndochan.  Roedd o’n ddiddorol clywed erthygl Llew ap Gwent a ddarllenwyd gan Dyfir a chlywed am brofiadau Iolo ap Gwynn ar y safle gyda Glan Llyn yn y chwedegau.  Pleser mawr hefyd derbyn copi o soned a llun Ifor Owen o’r castell.

Fel cyd-ddigwyddiad, y prynhawn hwnnw, dangosodd S4C ddarn am y safle a gafodd ei ffilmio’n ystod y gwaith cloddio.  Mae’n dal ar gael i’w weld trwy ddilyn y ddolen yma isod.  Mae’r darn am Gastell Carndochan yn cychwyn yn y 16eg munud.  Tybed fedrwch chi adnabod rhywun o’r clwb yn siarad? Prynhawn Da
Mae gwybodaeth am y gwaith archeolegol a wnaethpwyd y llynedd ar gael ar safle we Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ac mi fydd adroddiad am waith eleni ar gael yno cyn bo hir.  Dilynwch y ddolen yma

Diolch i bawb oedd ar y daith am eich cwmni da ac am drefnu’r tywydd gorau dwi erioed wedi ei gael wrth ymweld â’r safle.


Adroddiad gan Haf:

Cyfarfu ugain ar ddiwrnod braf iawn – digon o haul ar y bryniau ond Penllyn ynghŷdd dan dawch – i gerdded ffordd gefn dawel i fyny Cwm Pennant-lliw tuag at Carndochan.  Wedi gael y ffordd, roedd rhaid dringo dros y ffridd tuag at olion y castell a’r haul erbyn hynny’n brysur fwyta’r tawch a phentref Llanuwchllyn yn cael ei ddatgelu’n raddol.

Cafwyd esboniad difyr iawn gan Anita o’r cloddio diweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.  Llwyddwyd i ddod o hyd i fynedfa’r castell a rhai olion y gellid, gobeithio, eu dyddio yn ôl y dull radio-carbon yn y gobaith y bydd yn bosib dyddio’r castell nad oes dim tystiolaeth dogfennol yn perthyn iddo. Darllenodd Dyfir Gwent erthygl o waith Llew a ymddangosodd yn y rhifyn cyntaf un o Pethe Penllyn a diddorol hefyd oedd clywed Iolo ap Gwynn yn sôn fel y byddai criwiau o Wersyll Glan-llyn yn dod i ddringo ar greigiau Carndochan nol yn y chwedegau.  Cyfeiriodd hefyd at gwpan aur a gedwir yn Amgueddfa Forwrol Cymru yn Abertawe, cwpan wedi ei gwneud o aur o’r gwaith sy’n llochesu wrth droed y castell.

Erbyn hyn roedd pawb yn barod am ginio a chyfle i fwynhau’r golygfeydd o bum plwy’ Penllyn gyda’r Berwyn yn y cefndir, Pennant-lliw yn arwain ein llygaid tuag at Moel Llyfnant a’r Arenig Fawr a Chwm Cynllwyd ac Aran Benllyn tua’r de.  Doedd hi ddim yn ddiwrnod i frysio – aeth rhai am dro hirach i fyny’r cwm – a dychwelwyd lawr ochr arall y cwm gan ymweld â mynwent yr Hen Gapel i weld bedd Michael D. Jones.  Aeth rhai i blygu pen ger beddi dau o aelodau’r clwb, Hefin Edwards a Llew ap Gwent, yn mynwent y Llan a dewisodd amryw flasu paned a chacen (ac ambell beint) a chroeso cartrefol Gwesty’r Eryrod.

Llawer o ddiolch i Haf am drefnu ac i Anita am ei chwmni ac am rannu ei gwybodaeth.
Y cerddwyr oedd Iolo ap Gwynn, John Port, John Arthur a Gwyn (Llanrwst), Arwel, Margaret a Nia, Rhys Llwyd a Gareth Tilsley, Merfyn, Dyfir, Anita, Haf, Raymond a Sue, Dafydd (Dinbych) a Jane, Olwen, Angharad ac Eryl o Benmachno.

Lluniau gan Haf Meredydd a Iolo ap Gwynn ar FLICKR


Cafwyd copiau o'r erthygl ganlynol, a'r darluniau isod gan Dyfir Gwent.

Castell Carndochan, erthygl a gyhoeddwyd yn y papur bro ‘Pethe Penllyn’, Rhagfyr 1974, gan y diweddar Llywelyn ap Gwent

Fel y gŵyr y rhan fwyaf o drigolion Penllyn, fe saif Castell Carndochan mewn sefyllfa ddylanwadol ar graig glogwynog sy’n rhan o Ffridd Helyg y Moch.  O ben y graig fe gewch olygfa fawreddog o Lyn Tegid a Phennantlliw a’r hen ffordd o Lanuwchllyn i Drawsfynydd. 

Ychydig iawn o hanes yr hen gastell sydd wedi ei gofnodi ac yn wir fe gred rhai i’r tywysog Llywelyn adael y gwaith o’i adeiladu ar ei hanner.  Ond mae lle i gredu y gorffennwyd y gwaith o godi’r castell ac y gwelodd ymladd ffyrnig cyn colli ei bwysigrwydd fel gwarchodle Penllyn.  Cawn sôn am hyn yn y man.

Cyn sôn am Garndochan adeg rhyfeloedd annibyniaeth y Cymry, gadewch i ni deithio’n ôl i’n hen, hen hanes, oblegid dyna’r adeg y daeth y safle, a mwy na thebyg, yr enw i fri.  Golyga’r enw Carn fod carnedd neu fedd wedi ei gladdu dan dwmpath o gerrig ar ben y graig yn yr oes gynhanesyddol.

Bedd pwy?  Dochan am wn i, ond ni wyddwn unrhyw beth am hanes yr arweinydd pwysig hwn o’r oesoedd a fu.  Diflannodd holl olion y garnedd pan adeiladwyd y castell ond nid dyna ddiwedd yr hanes oherwydd ym 1923 bu Mr Owen Lake yn cloddio ar y safle ac fe ddarganfyddodd lain (bead) gwydr hynod o dlws yn perthyn i oes y Brythoniaid cynnar.  Tybed ai eiddo i Dochan gynt oedd hwn?

Down yn ôl rŵan at y castell ei hun. Fe’i hadeiladwyd gan Llywelyn ap Gruffydd fel rhan o’r gadwyn o gestyll megis Ewlo, Castell y Bere, Dolwyddelan, Dolbadarn a Chricieth mae’n debyg i amddiffyn Gwynedd rhag y Saeson.  Roedd y safle yn bwysig iawn yn y Canol Oesoedd am ei fod yn allweddol i amddiffyniad y briffordd o’r de i’r gogledd ac o’r dwyrain i’r gorllewin.  Rhaid oedd i bawb a deithiai o Fawddwy i Drawsfynydd neu o’r Bala i Ddolgellau fynd heibio’r castell.  Olion yn unig ohono sydd i’w gweld bellach.  Wrth astudio’r adfeilion fe dybiwn i ei fod wedi ei godi mewn dull nodweddiadol o bensaernïaeth cestyll Llywelyn ap Gruffydd.   Ar y pen gorllewinol mae olion twr cryf ar ffurf pedol, sef siâp neilltuol i brif dyrau Cestyll y Tywysogion, ac ar y pen pellaf dwyreiniol, ar ymyl y graig, gwelir gweddillion twr crwn bychan.  Rhwng y ddau dwr safai adeilad sgwâr a’r muriau a gysylltai’r tyrau yn ymestyn ar bob ochr iddi.  Yn ôl erthygl ar Lanuwchllyn yn Archaeologia Cambrensis 1885, nid oes drws i’w weld yn yr adfeilion ac fe awgryma hyn mai adfeilion seleri’r castell yn unig sydd i’w gweld heddiw.  Yn amddiffyn y waliau allanol, chwe throedfedd o drwch, roedd gwrthglawdd o gerrig rhyddion.

Soniais ar y cychwyn fod yna sail i gredu i’r castell ddioddef ymosodiad tanbaid.  Sut y dof i’r casgliad hwn?  Daw ryw oleuni ar yr hen hanes o erthygl yn y Gwyliedydd ym 1828 lle cawn stori am hen ŵr o Lanuwchllyn.  Dyma a ddywed yr awdur: “Hanner can mlynedd yn ôl aeth hen ŵr, gan obeithio darganfod trysor, i gloddio trwy weddillion y castell hyd at y llawr, ond ni ddarganfyddodd unrhyw beth yno ond esgyrn dynol a phren wedi ei losgi.  O’r hyn y casglwyd fod y lle wedi ei losgi i lawr.”  Daw mwy o dystiolaeth o losgi’r castell o adroddiad am ymdrech i ddarganfod drws y castell ym 1872; ni ddaethpwyd o hyd i ddrws ond fe gafwyd siarcol, pridd wedi ei losgi, esgyrn anifeiliaid a darnau o blwm.  Dyma dystiolaeth dda i Garndochan fod yn wenfflam rhyw dro.  Sut y medraf brofi fod y castell wedi ei gwblhau cyn ei losgi?  Dyma’r ateb: Fe ddarganfuwyd plwm yn yr adfeilion ym 1872.  Ers y Canol Oesoedd tan yn gymharol ddiweddar roedd plwm yn ddeunydd toi adeiladau ac yn sicr fe ddefnyddiwyd plwm i doi’r castell.  Toi’r tyrau fyddai un o’r tasgau olaf wedi cwblhau’r muriau, ac felly fe deimlaf yn bur ffyddiog fod Llywelyn II wedi gorffen ei waith ar Garndochan.  Roedd y castell yn lle digon oer, llaith ac anghysurus, ac felly mewn adegau o heddwch cymharol fe drigai’r preswylwyr mewn llys cysurus yn y dyffryn islaw.  Ond pan ddaeth ymosodiadau ar diriogaeth y tywysog Llywelyn roedd diogelwch Carndochan wrth law. 



Diolch, Dyfir, am y darlun hyfryd hwn o Garndochan ac am y soned - y ddau o waith ei thad, Ifor Owen