HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Glannau Gwyrfai a'r Llwybr Llechi 15 Ebrill


Roedd y daith hon wedi ei chynllunio o gwmpas rheilffyrdd y diwydiant llechi sydd erbyn hyn wedi eu hadfer ar gyfer ein pleser ni ac ymwelwyr i’r ardal.  Cychwynnwyd y daith yng Nghaernarfon ar Drên Bach Eryri a aeth a ni – 23 i gyd, yn hamddenol ar hyd glannau afon Gwyrfai i orsaf fach Plas y Nant wrth droed Mynydd Mawr.  Dilynwyd y llwybr drwy goedwig dawel, hudolus Pen y Gaer a dod allan ar y llethrau islaw’r Eliffant.
 
Cerdded ymlaen drwy’r glaw man tuag at Foel Tryfan a cheisio dychmygu Begw a Winni Ffinni Hadog yn chwarae yn y grug wrth i ni weithio’n ffordd tuag at y chwareli llechi.  Mae yma wead o lwybrau wedi cael ei naddu drwy’r grug ar draws y blynyddoedd a’r cyfan yn arwain at dyllau’r chwareli.  Roedd rhywfaint o gysgod i’w gael yng ngheg y chwareli i ni gael cinio sydyn.

Erbyn i ni droi tuag at bentref Rhosgadfan roedd y glaw wedi cilio gan godi’r llen ar olygfeydd o bentrefi Arfon ac Ynys Môn yn y cefndir.  Y dasg nawr oedd gwau ar hyd lonydd cul a llwybrau gerllaw Rhosgadfan i ddal ceg y Llwybr Llechi.  Mae olion y diwydiant llechi i’w gweld yn amlwg ym mhob man gyda’r inclein yn torri ar draws y lôn o Rosgadfan i’r Fron.

Mae Grŵp Treftadaeth Rheilffordd Eryri wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Cymuned Llanwnda i agor y Llwybr Llechi o Fryngwyn i Orsaf Cyffordd Tryfan.  Mae digon o fyrddau gwybodaeth yn croniclo hanes y diwydiant llechi ynghyd â hen luniau o’r cyfnod ar hyd y llwybr.  Yn Rhostryfan mae man picnic hwylus lle cawsom saib bach i ladd amser i ddisgwyl y trên bach yr oeddem yn gobeithio ei ddal yng Ngorsaf Cyffordd Tryfan.

Roedd cyrraedd yr Orsaf fel camu’n ôl i’r gorffennol gyda’r hen adeilad wedi ei adnewyddu fel ag yr oedd pan gafodd ei adeiladu.  Rhyw brofiad tebyg i ddisgwyl trên yn Dyfi Junction!  Wedi hir ddisgwyl daeth y trên bach dan chwibanu, a mynd â ni’n ôl i’r Dre.

Adroddiad gan Rhiannon

Lluniau gan Geraint ag Anet ar FLICKR