Taith beics 16 Mai
Cafwyd taith fendigedig ddydd Sadwrn wedi ei threfnu gan Morfydd. Roedd pawb wedi cyfarfod yn nhŷ Morfydd ac ar ôl dad-lwytho beics a trafod mawr am be i wisgo i siwtio y tywydd, fe gychwynwyd mwy neu lai ar amser.
Buom yn dilyn lonydd tawel a Lôn Eifion am Garndolbenmaen, Golan, a Chwmystradllyn a thros y mynydd ar lôn darmac / concrid mewn mannau i lawr yn serth am Brenteg. Ymlaen wedyn am Aberglaslyn a Beddgelert, Rhyd ddu, Waunfawr, Ceunant, Llanrug, Penisarwaun, Llanddeiniolen yn ôl i Bethel. 56 milltir tua 3.500 troedfedd o esgyn a haned ym Mryncir a Nant Gwynant.
Mi roedd pawb wedi mwynhau yn arw ac yn ei weld fel ychwanegiad boddhaol iawn i weithgareddau'r clwb.
Diolch yn fawr iawn i Morfydd am drefnu.
Adroddiad: Gareth Roberts
Lluniau gan Gareth ar FLICKR