Taith ucheldir Dyffryn Conwy 17 Mehefin
Cyrhaeddodd pawb yn brydlon yn Nolgarrog i ddal y bws ddeg o’r gloch i Drefriw. Dringo drwy Goed y Creigiau a heibio carreg tanio Cae Robin. Undeg tri o dyllau wedi eu naddu yn y graig ac wedi eu cysylltu â sianel i gario’r pwdr du. Yn 1863 i ddathlu priodas ein 'hannwyl' dywysog Edward ac Alexandria o Ddenmarc, fe ddefnyddiwyd bron i wyth cant (cwt) o bwdr du. Dipyn o sŵn felly i’w glywed ar draws y dyffryn! Y llwybr yn dirywio o yma ymlaen ond diolch i bawb am fod yn amyneddgar. Dilyn y ffordd darmac heibio Rhibo a Thyddyn Wilym, cartref Gwilym Cowlyd, cyn cael seibiant wrth fynwent Capel Ardda.
Adeiladwyd y capel yn 1845 ac yn y fynwent claddwyd John Roberts, tad Gwilym Cowlyd. Bu John yn byw yn yr ardal hyfryd hon am 90 mlynedd.
Dilyn y ffos ddŵr i gyfeiriad pentref canoloesol Ardda a oedd yn eiddo i Abaty Maenan cyn i'r hen Harri ddwyn y cyfan! Dringo heibio gwaith mwyn Ardda. ‘Mae'r lle yma’n ogleuo fel matsys' meddai Jane. Wrth gwrs roedd yn hollol gywir oherwydd dyma un o'r llefydd yn y dyffryn lle’r oeddynt yn tyrchu am swlffwr cyn ei allforio i Lerpwl o'r cei yn Nhrefriw.
Cinio wrth argae Coedty, lle distaw heddiw ond yn Nhachwedd 1925 methodd argae Llyn Eigiau, a adeiladwyd flwyddyn ynghynt, a daeth lli enfawr i lawr y dyffryn a malu argae Coedty cyn hyrddio i lawr y ceunant, dinistrio pentref Porth Llwyd a lladd 17 o bobl.
Mae ceunant Afon Porth Lwyd yn wahanol iawn heddiw, y dŵr yn glir fel crisial a'r coed wedi hen ail dyfu.
Diolch i bawb a fentrodd draw i Ddyffryn Conwy ar ddiwrnod braf o Fehefin.
Adroddiad: Arwel Roberts
Lluniau gan Arwel Roberts ar FLICKR