HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Conwy ac yn ôl ar lan y môr 18 Mawrth



Mynydd a Môr

Conwy – Mynydd y Dref – Castell Caer Seion – Penmaen-bach – Dwygyfylchi – Morfa Conwy – Conwy

Pellter : 9 milltir
Yr oedd  i ni ddiddanwch yn y môr a’r mynydd . . .
Yr oedd pob un o’r chwe ‘dringwr’ ar hugain ohonom a ymunodd yn y daith gylch a gychwynnai yng Nghonwy ddydd Mercher wedi bod ar ‘gopa’ Mynydd y Dref neu Fynydd Conwy nifer o weithiau ac wedi sylwi, mae’n debyg,  ar  fryngaer eang Castell Caer Seion ar uchder o 800 troedfedd.  Dau yn unig, fodd bynnag, oedd wedi dringo  i gopa Penmaen-bach nad yw ond pedair troedfedd yn uwch.   Yn sicr mae’r gwyriad hwn ar Lwybr y Gogledd yn werth ei wneud gan fod golygfeydd gwych i’w cael  ar y gwastadedd rhyngom a Phenmaenmawr i’r gorllewin, draw i gyfeiriad y Gogarth i’r gogledd ac i’r de ar gefnen Tal-y-fan.  Er ffodused oeddem i gael diwrnod brafiaf y flwyddyn hyd yma, heb brin chwa o wynt, oherwydd y tawch -  er siom i’r Monwysion yn ein plith - yr oedd ‘Môn yn freuddwydiol a mud’,  yn bod yn y dychymyg yn unig.  Pan dynnwyd sylw o gopa Penmaen-bach at ddau gae gwyrddlas di-frwyn a di-garreg gyda wal gerrig grefftus o’u cylch holodd un o’r beirdd yn y fintai a fu Waldo yma rywdro!  Tybed a oes enwau i’r caeau hyn?

Gan mai taith Glwb Mynydda oedd y daith bu peth mentr wrth grafangu dros raeadr o gerrig rhydd a llwyni grug wrth ddod i lawr o Benmaen-bach i’r llwybr yn y cyfrwy rhyngom a’r Alltwen.  Oddi ar y llwybr ar i waered ceir golygfa hyfryd dros Goed Pendyffryn a’r maes carafanau heibio ffordd ddeuol yr A55 a’r rheilffordd  ar dywod Traeth y Lafan.  Ar lecyn glas wrth borth Eglwys Sant Gwynnin yn Nwygyfylchi y gloddestodd hanner y cwmni tra dewisodd yr hanner arall fwyta’u brechdanau ar y traeth!  Bu i amryw holi beth yw ystyr yr enw cyfylchi.  Diffiniad GPC yw ‘math o amddiffynfa neu gaer gron gyflawn’.  Mewn enwau lleoedd y digwydd bron yn ddieithriad.  Yn ogystal â’r enw plwy yma yn Arfon ceir Bwlch y Gyfylchi, Craig y Gyfylchi a Chapel y Gyfylchi ym Morgannwg a Y Gyfylchi ym Mynwy.

Profiad anarferol i aelodau Clwb Mynydda yw cerdded rhyw bedair milltir ar dywod ond cyn agor ffordd y gallai cerbydau a cheffylau ei thramwyo’n ddiogel ar dro’r ddeunawfed  a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar y tywod hwn y teithid o fferi Conwy draw i Fiwmares pan fyddai’n drai i osgoi aruthredd creigiau Penmaen-bach.  Dangosir y ffordd ar fap John Ogilby (1600 – 1676) o’r daith o Lundain i Gaergybi  yn yr atlas ffordd gyntaf i’w hargraffu yn unrhyw wlad yng ngorllewin Ewrop yn 1675 (COPI yn y casgliad lluniau - dolen isod).  Wrth syllu tua’r clogwyn ar y dde yr hyn âi â bryd Arwel a John P oedd y grib ddiddorol yn codi o ymyl y twnnel i ben Penmaen-bach.  Tybed a ddringir hi?

Mynd heibio’n frysiog ar y briffordd wnaeth Alun Llywelyn-Williams yn Crwydro Arfon.  I’r neb a ymddiddoro yn hanes teithio y mae i’r rhan hon gyfaredd a chwilfrydedd.  Mae’r fryngaer y buom yn cerdded trwy ei chanol ar Fynydd y Dref, y cylchoedd cerrig trawiadol ar Gefn Coch uwch ben Penmaen-mawr, chwarel fwyeill Graig Lwyd, bryngaer Braich y Dinas (nad yw’n bod mwyach ar Benmaen-mawr) a’r olion cyn hanes niferus yn brawf fod prysurdeb ar hyd y canrifoedd.  Ar gwr yr ardal y dewisodd y Rhufeiniaid groesi trwy Fwlch y Ddeufaen ar eu ffordd o Canovium  tua Segontium.  Trwy gydol yr Oesoedd Canol yr oedd cryn deithio o Lundain i Iwerddon.  Ar un adeg Caer oedd y porthladd yr hwylid ohono ond yn ddiweddarach  dewisai rhai teithwyr gadw i’r tir o Gaer, croesi ceg afon Conwy â fferi, ac yna anelu am borthladd Biwmares ar draws y tywod.
Cyfeiria llawer o’r teithwyr a ymwelodd â gogledd Cymru at beryglon y daith rhwng Bangor a Chonwy.  Dyma’r hyn a ysgrifennodd W Bingley ar ôl ei deithiau yn 1798 a 1801:
     Before this pass was formed, which is now nearly thirty years ago, the usual mode of going betwixt Conwy and Bangor was either in boats, or, waiting the departure of the tides, to proceed along the sands at low water.  The latter mode was frequently attended with danger, owing to the soft places made by the fresh water streams, and the hollows formed by the tide, of the depth of which, when filled with water, the guides could not always be certain.  Few carriages at that time were taken betwixt the two towns, but nearly all the travellers were conveyed on horseback.  There were two inns for the convenience of waiting the departure of the tides, the buildings of which are, I believe, both yet standing, but appropriated to other uses.  One of these was near the turnpike under Penmaen Mawr, and the other near Penmaen bach. . . .
 Bingley ymlaen i ddweud : 
 ... There was a horse-road along the side of the mountain, but it is said to have been excessively dangerous and bad; in some parts it ran above, and in others below, the present road.  Those who went in carriages, or on horseback, along the sands, set out from Conwy marsh, went entirely round the promontory, and passed on the outside of Penmaen Bach.
Y mae Thomas Roscoe yntau yn 1853 yn cyfeirio at y ddwy dafarn  :
  Correctly speaking, this great mountain promontory has two divisions, - one of which is called Penmaen mawr, the other Penmaen Bach, - the latter lying the nearest to Conway; but the whole is generally known to the tourist by the former name.  Less than a century ago, a narrow zigzag path, along the side of the rock, was the only convenience for travellers. At that time there was an inn at each end of the pass, and the witty Dean Swift is said to have composed the following couplets, which greeted the admiring traveller on the sign-posts as he entered and debouched from it :-
“Before you venture here to pass, /  Take a good refreshing glass.”
            “Now you’re over, take another, /  Your drooping spirits to recover.”
Hanesyn a aeth â bryd un o’r arweinyddion yw’r un am y ddamwain a gafodd y ‘Parchedig Mr Jones’, Llaneilian wrth groesi Penmaen-mawr yn 1762.  Syrthiodd ei geffyl a bu’n rhaid ei ddifa.  Lladdwyd gwraig a farchogai y tu cefn i’r Person ond bu ef yn ddigon bachog i dynnu’r cyfrwy a’r drecs a cherdded oddi yno’n groeniach.

Ond yn ôl at y ffyrdd.  Gwaith John Sylvester yn 1772 oedd gwella’r ffordd dros Sychnant a bu’n rhaid aros tan 1825 i Thomas Telford agor y  ffordd gyntaf ar draws Penmaen-bach ac yn 1845 y cafwyd y rheilffordd.  1934 yw’r dyddiad ar geg y twnnel.
Ar ôl cyrraedd y marina yng Nghonwy cawsom olwg ar y maen sy’n cofnodi gwaith Iorys Hughes, peiriannydd sifil  a anwyd ym Mangor, y gŵr a gomisiynwyd gan Churchill i ddylunio ac adeiladu cynffurfiau llwyfan glanio a ddefnyddiwyd yng Nglaniad Normandy yn 1944.  Am gyfnod yr oedd cymaint â 900 o bobl yn gweithio ar y prosiect yma yng Nghonwy.
Ein balchder ni Gymry yng Nghonwy yw mai yma y sefydlodd Llywelyn Fawr abaty i’r Sistersiaid.  I wneud lle i’w gastell a’i dref gaerog adeg ein darostwng symudodd Edward y Cyntaf yr abaty a chorff Llywelyn i Faenan.  Wrth fynd yn ôl i’n ceir yn y maes parcio yr oeddem yng ngolwg y Gyffin lle y ganwyd dau Gymro nodedig iawn.  Am ran helaeth o’r 19 ganrif credid mai John Gibson (1790 – 1866) oedd cerflunydd marmor gorau’r byd.  Fe’i magwyd yma mewn amgylchiadau tlawd.  Ysgolhaig ac awdur disglair oedd yr Esgob Richard Davies (1501? – 1581).  Ei waith pwysicaf oedd ei gyfraniad i’r cyfieithiad Cymraeg o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a’r Testament Newydd (1567).
I gloi diwrnod cofiadwy yr oedd galw yn nhafarn yr Albion i fwynhau sgwrs fywiog a phaneidiau o de neu beintiau o gwrw yn well dewis na mynd i Eglwys Conwy i chwilio am gofeb Nicholas Hookes, plentyn rhif 41 ei dad William Hookes ac Alice ei wraig a thad 27 o blant a fu farw 27 Mawrth 1637.

Enwau’r rhai ar y daith

John Parry (Port), Gwil a Gwenan, Anet, Gwyn (Chwilog), Eryl, Angharad a Jane, Arwel, Gwilym Jackson, Rhys Llwyd, John Parry (Llanfair), Nia a Meirion a Mags, Rhiannon (o Gaernarfon), Gwyn (Llanrwst), Osian a Rhiannon (Wrecsam), Dafydd, Iona, Gwilym Hughes, Margaret a Gareth, Meira a Geraint.

O.N.
Mi gawn ni hanes Gwendud merch Helig ap Glannog mab Gwgawn Gleddyfrudd mab Caradog mab Llŷr Mereini mab Einion ap Cunedda y tro nesa’ y byddwn ni yng ngolwg Tyno Helig !!

Helig ap Glannog   - Arglwydd Abergele, Rhos, Arllechwedd, Llŷn, Cantref Gwaelod
Glannog  mab Gwgawn Gleddyfrudd mab Caradog mab Llŷr Mereini mab Einion ap Cunedda
Safai prif lys Helig tua hanner y ffordd rhwng Penmaen mawr a’r Gogarth.  Gellir gweld olion ar drai isel tua dwy filltir allan i’r môr yn union gyferbyn â Thrwyn yr Wylfa – bryn mawr yng nghanol plwyf Dwygyfylchi.  Yma y rhedodd Helig ap Glannog a’i ŵyr pan dorrodd y môr atynt.  Yr oedd gan Helig lys arall yn ymyl Pwllheli - Pwllhelig yn wreiddiol.

Traeth y Lafan
– Traeth Aflawen – traeth annymunol, golygfa annymunol i’r trigolion a thrist o gofio’r wlad hardd fel yr oedd.  Gellir gweld gweddillion coed derw ac ynn ar drai isel.

Motifau’r llên gwerin
:  gorlifiad lleol a dianc rhag gorlifiad

Boddi Tyno Helig
:  boneddiges gyfoethog yn byw ym maes Tyno Helig, merch Helig ap Gwlanog – ei henw: Gwendud –  “gwraig o arferion hynod o anniwair ac o ymddygiad balch neilltuol”.  Yr oedd gŵr ifanc am ei phriodi ond cyn y cytunai hi yr oedd yn rhaid iddo fod yn eurdorchog h.y. fod ganddo dorch o aur sef ei fod yn dywysog.  Yn y stori yr oedd Sais yn cychwyn ar daith o’r ardal yn llwythog o anrhegion ac y mae’r gŵr ifanc yn cynnig bod yn arweinydd iddo.  Er mwyn sicrhau ei gyfoeth, gan gynnwys torch aur, mae’r Cymro yn arwain y Sais ar lwybr uchel ar y graig - byddai’n rhy beryglus i gadw at y gwastadedd coediog gan fod bleiddiaid ffyrnig yno.  Ar lan  afon a red i’r môr yng Nglan Môr Elias lladdwyd y Sais a dyma egluro enw’r afon hyd heddiw sef Afon Lladd y Sais.  Cosb am hyn ac am fywyd anfoesol Gwendud oedd boddi’r tir.

Merddyn Hywel
: Milwr dewr a bardd oedd Hywel a chanai gerddi serch i’w wraig.  Trigai’r ddau, yn ôl y stori, ym mryniau Penmaen bach -  lle mwy cysgodol nag yn yr ucheldir.  Dyma un llinell: “Y gaer falchwaith o’r Gyfylchi”.

Afon Gwrach
: Yn ôl chwedl gwrthodai’r Cymry yfed dŵr o’r afon am y credent ei fod yn wenwynig.  Y mae’r afon Gyrach yn tarddu yn agos i Llwyn-pen-du.  Yn y mynydd-dir trigai gwrach erchyll o’r enw Andrasta neu  Andras.  Gallai hon hedfan.  Yr oedd ganddi bair a merch.  Yn y blynyddoedd a fu arferai pobl “a chrefydd ddrwg ganddynt ladd gwŷr a gwragedd i’w bodloni i fyny ar y mynydd”.  Yn yr hen fytholeg Frythonaidd aberthid pobl i’r wrach Andrasta.  Y mae llên gwerin yn sôn am deml i Geridwen yng Nghaergyfylchi.

Adroddiad gan Geraint

Lluniau gan Anet, Gwenan, Gareth a Geraint ar FLICKR