HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Bochlwyd 18 Ebrill



Daeth 17 ar y daith hon, efallai’r daith sgrialu (neu sgramblo!) estynedig orau yng Nghymru. Cychwynwyd i fyny hafn ger Bwtres y Garreg Filltir - rhif 22 yn llyfr Steve Ashton, ac mae ei ddisgrifiad ef o “hafn hyll yr olwg ond gyda sgrialu rhagorol” yn un addas iawn.  Defnyddir yr hafn gan ddringwyr i ddod i lawr felly mae’n llyfn heb ddim cerrig rhydd a chyrhaeddwyd ceg yr hafn yn gwbl ddi-drafferth.  Allan wedyn i’r heulwen ac  i fyny hafn arall, ferrach cyn cyrraedd copa Tryfan ar hyd creigiau’r Grib Ogleddol.  Er i ambell un gael eu temptio i neidio o Adda i Efa (neu o Efa i Adda?) ni chyflawnodd neb y gamp – er bod amryw’n pwysleisio eu bod wedi gwneud hynny pan yn iau!

Wedi disgyn i Fwlch Tryfan, cadwyd gyda’r wal i fyny tuag at y Grib Ddanheddog a rhagor o sgrialu rhagorol ond digon rhwydd hefyd; does dim yn well na chraig cwbl sych, awyr las uwchben a haul i gynhesu’r cymalau a chodi’r ysbryd.  Wedi peth trafodaeth, ac ystyried enwau eraill megis y Grib Bigog, y Grib Filain a’r Grib Ysgithrog penderfynwyd arddel yr enw Crib Ddanheddog am y Bristly Ridge.  Hyd y gwyddys, does dim enw lleol Cymraeg, cynhenid ar y grib hon – mae mawr angen ceisio sefydlu enw cydnabyddedig iddi.

O bobtu copa Glyder Fach, manteisiodd rhai ar y cyfle i gael tynnu eu llun yn sefyll yn rhes ar y Gwyliwr ac yna cael ychydig mwy o sgrialu yn dringo dros Gastell y Gwynt cyn diweddu’r dydd trwy ddod lawr ar hyd y Gribin at Lyn Bochlwyd a chael ein dal mewn rhes hir ac araf o gerddwyr yn disgyn y grisiau’n ól tua’r ffordd fawr.  Llawer o ddiolch i Gareth Wyn am drefnu ac arwain taith y bydd pawb ohonom yn ei chofio am hir – ac i Gerallt am y lluniau gwych.

Y criw oedd Elen a Gwyn o Ddyffryn Nantlle, Dylan Huw , Iolo a Meirion o gyffiniau Caernarfon, Sioned Llew, Alun Caergybi, John Parry, Iolyn, Gerallt a Dwynwen, Gareth Everet, Rhys Dafis, Gareth ’Rynys, Prys, Gareth Wyn ac Eryl

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR