HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Betws y Coed 18 Tachwedd


Dyma ni eto yn troi allan i gerdded ar dywydd digon gwlyb i allu cymharu diwrnod o grwydro hefo treulio diwrnod yn syrffio yn Ewyn Eryri/Surf Snowdonia yn Nolgarrog yn gymharol sych!

Dyma’r drydedd daith yn ddilynol i’r clwb gael tywydd difrifol ond er hynny daeth 10 ohonom i gasglu o flaen y stesion ym Metws-y-coed yn wlyb doman dim ond drwy gerdded o’r ceir i’r cychwyniad.  Er hynny roedd pawb yn llawen hefo digon o sylwadau hwyliog am y tywydd gwlyb.

Cychwyn cerdded ar hyd yr A5 am Bentre Du cyn troi ar y llwybr a’i ddilyn uwchben y pentre am Rhiwddolion a Llyn Elsi.  Roedd cyflwr y llwybr yn rhoi’r argraff ein bod yn cerdded drwy wely afon ac yn tybio bod dŵr y llyn wedi gorlifo'r argae ac yn ein cyfarfod ar y llwybr!  Fel arweinydd roeddwn yn cysidro sut i leihau’r daith i arbed mwy o wlybaniaeth i’r criw dewr .

Wedi inni gyrraedd prif ffordd y goedwigaeth, penderfynwyd drwy gytundeb i osgoi ymweld â gweddillion Rhiwddolion ac aethom ymlaen am y llyn.  Y bwriad gwreiddiol, hefo’r tywydd yn caniatáu, oedd cael picnic ar seddau uwchben y llyn i fwynhau’r golygfeydd o Foel Siabod, y Carneddau a Chreigiau Gleision, hefyd bywyd gwyllt y llyn.  Yn frysiog cawsom dynnu llun gan Haf a chytuno eto i gwtogi’r daith gan osgoi mynd rownd y llyn ac anelu am y goedwig i gael rhywfaint o gysgod o’r glaw trwm; felly, cawsom weld fawr o brydferthwch yr ardal.

Ymlaen drwy’r goedwig mewn ardal ddieithr i rai o’r criw ac anelu am y llwybr sy’n troi i lawr i Bont Gethin.  Y glaw erbyn hyn wedi arafu a’r arweinydd yn ddyfn mewn sgwrs, ac ar ôl gwneud dwy reci diweddar, yn llawn hyder o`r cyfeiriad!  Daethom ar draws llyn o ddŵr ar draws y ffordd a dim gobaith ei osgoi oherwydd y dyfnder ac ar ôl cysidro aeth rhai ohonom rownd yr ymylon a dim pryder am wlychu traed am eu bod yn wlyb yn barod.  Aeth rhai yn ddyfn i mewn i’r goedwigaeth er mwyn osgoi yn gyfangwbwl ond aeth Gwyn Chwilog ar garlam yn syth drwy ei ganol fel y disgwylir gan bysgotwr profiadol!  Wedi i bawb fodloni ar gyrraedd pen draw’r pwll cefais dynnu fy sylw gan Gwyn Llanrwst fy mod efallai wedi methu’r llwybr am Bont Gethin.
Ac felly yr oedd, a hefo cywilydd mawr roedd rhaid gofyn i bawb fynd yn ôl drwy’r pwll tyfn ac ail ddilyn ein camau’n ôl at ddechreuad y llwybr.  Roedd yna dipyn o dynnu coes a thybio pwy sydd yn ddieithr i’r ardal!!

Ar y llwybr pleserus i lawr am y bont cawsom ginio yn y goedwig ac wedyn ymlaen i gyrraedd y bont mewn tywydd sych.  Roedd pawb erbyn hyn yn adnabod lleoliad y bont sydd yn mynd a’r rheilffordd dros yr A470 rhyw 3 milltir i’r de o Fetws-y-coed.

Croesi’r ffordd i fynd drwy fwlch yn y wal a dilyn llwybr i’r bont bren sy’n croesi’r afon Lledr oedd yn fwrlwm wedi’r holl wlybaniaeth.  Oedi yma i ryfeddu ar ffyrnigrwydd yr afon a thynnu amryw o luniau yn ardal hardd y Lledr.

Ymlaen i ymuno â ffordd Wybrnant a dychwelyd i Fetws-y-coed mewn tywydd sych erbyn hyn ac awel gynnes i fwynhau panad haeddiannol mewn caffi ar y stesion.

Pawb yn cytuno y dylem ail gerdded y daith hon mewn tywydd mwy ffafriol a chael mwynhau prydferthwch yr ardal yma o Ddyffryn Conwy.  Cawn weld!!

Hoffwn ddiolch i Gwyn Llanrwst, Gwyn Chwilog, Anet, Gwenan a Gwilym, Haf, Raymond, Cemlyn a Morfudd am eu cwmpeini difyr a hwyliog a sgwrsio di ben draw!

Adroddiad gan yr arweinydd Gwilym Jackson.

Lluniau gan Anet ar FLICKR