Dolgellau i Bermo 19 Medi
Roedd saith ohonom yn aros am y bws yn Bermo, Eryl ac Angharad, Eirlys ac Iolyn, Gwyn Llanrwst a Gwyn Chwilog a finna, Anet. Cyrhaeddodd y bws yn hwyr, fel yr oeddem yn dechrau aflonyddu, ac i ffwrdd a ni am Ddolgellau. Yno’n aros amdanom roedd Huw o Landre a Dafydd (fu’n ysgrifennydd brwdfrydig a chydwybodol i’r Clwb am flynyddoedd), y ddau heb fod ar daith ers tro a phawb yn falch o’u gweld. Gadael y dref yn yr haul a dilyn llwybrau a lonydd cefn tua’r de-orllewin. Erbyn amser cinio roeddem wedi cyrraedd mynwent hen gapel Rehoboth, lle mae cerrig coffa i Gwynfor Evans a’i deulu. O’n blaenau roedd Pared y Cefn Hir a phenderfynodd Iolyn, Gwyn Llanrwst ac Eryl ddringo trosto tra’r oedd y gweddill ohonom yn dilyn llwybr da gyda’i odre cyn ail-gyfarfod wrth Lynnau Cregennan. Roedd seibiant ola’r daith wrth bont gerrig tros yr Afon Arthog yn agos at olion Llys Bradwen. Diolch i Eirlys am dynnu ein sylw ato.
Roedd rhan ola’r daith i lawr ceunant coediog gyda’r afon a heibio rhaeadr Arthog. Yna croesi’r ffordd fawr at Forfa Mawddach a’r bont tros yr afon. Wedi cerdded tuag un filltir ar ddeg mewn tywydd perffaith roeddem mewn pryd i fwynhau paned a chacen yn un o gaffis Bermo.
Diolch i Gwyn am arwain ac i bawb am eu cwmni.
Adroddiad: Anet
Lluniau gan Anet ar FLICKR