Dolwyddelan i Flaenau Ffestiniog 22 Awst
Taith i ddod i adnabod tirlun bryniog Bro Ffestiniog gyda’i olion diwydiannol dramatig oedd hon. Cychwynnwyd o Flaenau Ffestiniog drwy ddal bws am 9.50 y bore am Ddolwyddelan ar fore digon dwl gyda rhagolygon am fwy o dywydd gwlyb. Mentrodd saith ohonom i gychwyn sef, Eryl, Angharad, Haf, Anet, Gwen, Clive a Rhiannon gyda John Arthur a Gwilym yn ein cyfarfod yn Nolwyddelan.
O sgwâr Dolwyddelan, dilynwyd y ffordd heibio eglwys hardd St. Gwyddelan, dros Afon Lledr a heibio’r Ysgol Gynradd. Wedyn dilynwyd y llwybr cyhoeddus o Ddolwyddelan i DŷMawr Wybrnant a oedd yn mynd trwy’r goedwig. Wedi dod allan o’r goedwig mae’r llwybr maes o law yn cyfarfod trac i ben copa Y Ro Wen. Cerddasom yn y glaw mân ar hyd y trac a oedd yn tynnu i fyny yn raddol i’r copa.
Cawsom seibiant sydyn yn y lloches ar ben Y Ro Wen (594m) y copa uchaf am y dydd - a braf oedd teimlo fod y gwaith caletaf tu cefn i ni erbyn hanner dydd. Yma bu raid i ni gymryd cyfeiriad cwmpawd i symud ymlaen gan fod y niwl yn cau amdanom ond drwy ryw ryfeddol wyrth cododd y llen ychydig fel yr oeddem yn cychwyn cerdded.
Dilynwyd y llwybr ar draws y tirlun bryniog i gyfeiriad chwarel Cwt y Bugail. Yn dilyn yr holl dywydd gwlyb a gawsom yn ddiweddar roedd tipyn o waith osgoi'r pyllau. Wedi cyrraedd chwarel Cwt y Bugail cawsom gyfle i gael seibiant arall - y tro hwn heb orfod dioddef y glaw a gyda danteithion fel bisgedi siocled moethus Haf i godi’n calonnau.
Erbyn cyrraedd hen dramffordd Chwarel Rhiw Bach sy’n dilyn cyrion Llyn Bowydd roedd y nen yn goleuo a gallem weld y Moelwynion a’r Cnicht o’n blaenau. I orffen y daith, daethom i lawr yr inclein i Chwarel Maenofferen a cherdded trwy’r chwarel yn ôl i Blaenau. Ar y ffordd roedd amser i ryfeddu at dirlun diwydiannol y dref arbennig hon a oedd, pan yn ei hanterth, yn gartref i dros 11,000 o drigolion.
Adroddiad: Rhiannon a Clive James
Lluniau gan Haf ac Anet ar FLICKR