HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Aran Benllyn ac Aran Fawddwy 23 Mai


Daeth 22 aelodau’r clwb ynghyd ym maes parcio Y Pandy, Llanuwchllyn ar fore braf o wanwyn. Aethom ymlaen i ddringo llwybr Crib yr Aran, gan aros wrth Garreg Llew, ar ysgwydd Y Garth Fawr a nepell o ddechrau’r llwybr ond gyda golygfa ysblennydd o’r pentref. Cawsom funud o dawelwch i gofio am Llew union bum mlynedd wedi damwain mor drasig. Roedd Llew yn un o aelodau mwyaf cyson a chefnogol y Clwb ac yn gyfaill i bob un ohonom.

Heibio Moel Ddu a Moel Ffenigl, gan barhau i ddringo’n araf, gyda’r olygfa o lyn Tegid y tu cefn inni yn ymagor wrth fynd ymlaen.Aros ennyd ar gopa Aran Benllyn cyn mynd ymlaen heibio Llyn Pen yr Aran ac i’r pwynt uchaf o ychydig fetrau, sef Yr Aran Fawddwy.

Dod yn ôl wedyn rhyw hanner ffordd rhwng y ddwy Aran, cyn troi tua’r dwyrain a disgyn llethr Erw’r Ddafad Ddu tuag at Greiglyn Dyfi. Yno cael llun o’r criw i gyd gyda Chreiglyn Dyfi a llethrau serth yr Aran Fawddwy yn gefndir.

Aeth rhai ohonom i lawr y cwm i gyfeiriad Cwm Croes ac eraill tros Foel Hafod Fynydd a Braich yr Hwch, cyn disgyn i Gwm Ffynnon ac ymlaen i lawr Cwm Croes ac yna Gwm Cynllwyd ac i faes Parcio y Pandy. Bu’r gôg yn cadw cwmni inni yn ysbeidiol trwy y dydd, a chafodd rhai ohonom drafodaeth ddifyr ar y Milfyw a’r Benllwyd wrth ddringo’r llethrau.

Diolch am gwmni (wedi rhestru fel yn y llun gan Gerallt) Merfyn, Hefin,Alun Caergybi, Gwen Aaron, Debbie, Gwyn Chwilog, Gaenor, Morfydd, Dwynwen, Gareth Wyn, Gareth Everett, Gwen  Rhuthun, Rhiannon a Clive, Huw Williams, Eryl Owain, Iolo Roberts, Rhodri, Eirwen, Iolyn, Gerallt.

Adroddiad gan Gwyn Llanrwst

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR