Ardal Llangernyw 23 Medi



“Rhodio lle gynt y rhedwn”

Daeth criw da o aelodau’r clwb a chyfeillion lleol i iard yr hen ysgol ym mhentref Llangernyw ar fore braf o Fedi, - ymweliad cyntaf â’r ardal nodedig hon i rai mae’n debyg.  Saif Llangernyw bron hanner ffordd rhwng Llanrwst ac Abergele gyda’r briffordd yn mynd drwy’i ganol.  Roedd rhan gynta’r daith yn mynd â ni ar hyd ffordd Rufeinig sydd hefyd yn rhan o Lwybr Pererinion Gogledd Cymru.  Tybir y bu’n cysylltu â Canovium, y gaer Rufeinig yng Nghaerhun yn yr oes a fu.  Codi’n raddol allan o’r pentre a gadael sŵn plagus lli gadwyn a oedd yn cynaeafu coed pîn gerllaw’r llan.

Dod at adfail hen ffarm y Crel, sydd wedi’i anfarwoli yn rhai o ffotograffau Geoff Charles.  O’r fan hyn hefyd roeddem yn gweld tŵr plas Hafodunos a’r sgaffaldiau yn arwydd o’i gyflwr bregus ar ôl tân yn 2004.  Yn ôl yr hanes, gorweddodd corff  Gwenffrewi dros nos ar ei ffordd o Dreffynnon i Fynwent Gwytherin yn y fan hon yn y 7fed ganrif.  Bu’r hen blas yn gartref i’r Llwydiaid a’r enwocaf ohonynt oedd John Lloyd, athronydd a gŵr llengar.  Codwyd y plas presennol yn 1864 i’r teulu Sandbach y bu eu dylanwad fel meistri tir yn drwm ar yr ardal am genedlaethau.  Am gyfnod bu plas Hafodunos yn ysgol fonedd ac yn goleg cyfrifeg ond ers 2010 mae perchennog newydd a’i ddymuniad yw adnewyddu’r adeilad a’r gerddi Fictoraidd i’w cyflwr gwreiddiol.

Cerdded hamddenol wedyn ac oedi i edrych ar Eryri - o ongl wahanol i rai, er bod pob un yn adnabod  siâp stegosawraidd Tryfan.  Ymlaen wedyn a ‘throtian’ ar y trac lle mae’r seren rasio harnais, Megan Taff, yn ymarfer ei cheffylau.  Ar hyd ffordd galed am ychydig cyn troi i lawr am Nant Cefn Coch a sylwi ar y dail yn dechrau newid lliw.  Llwybr cul ar ochr clogwyn cyn dod at waelod allt Waterloo.  Croesi’r A548 a throi i’r chwith am ddolydd gwastad yr afon Elwy.  Cerdded at y Bontfaen, lle mae’r afonydd Cledwen, Collen a Gallen yn uno i ffurfio’r afon Elwy.

Troi drwy fynwent Eglwys Sant Digain ac oedi wrth fedd taid a nain Waldo cyn dod at ywen hynaf Cymru a Lloegr.  Yn ôl y botanegydd David Bellamy mae’r ywen dros bedair mil o flynyddoedd oed.  Tan yn lled ddiweddar rhwng y ddau foncyff gorweddai tanc oel yr eglwys nes i’w gyflwr rhydlyd a’r bygythiad i’r ywen godi braw ar swyddogion yr eglwys.  

Daeth y glaw yn gwmni i gymal ola’r daith.  Cyn pen dim roeddem y tu allan i amgueddfa’r Cwm, cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852 – 1922) a ddaeth maes o law yn Athro Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow ac yn ymgyrchydd brwd dros sefydlu ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Gadael y Cwm a throi i’r dde i fyny’r allt am ryw filltir a dod at Bronhwylfa, cartref yr athro a’r ysgolhaig J T Jones (brawd yr ysgolhaig, y bardd a’r gwleidydd R E Jones) a gyflawnodd gymaint o gamp yn cyfieithu rhai o ddramâu Shakespeare i’r Gymraeg gan gynnwys Romeo a Juliet, Hamlet, Nos Ystwyll a Marsiandwr Fenis.  Y mae ei englyn i’r ‘Llwybr Troed’ yn enwog:

'Rwy'n hen a chloff, ond hoffwn - am unwaith
Gael myned, pe medrwn,
I'm bro, a rhodio ar hwn;
Rhodio, lle gynt y rhedwn!.

Yn uwch i fyny o Bronhwylfa mae tyddynnod Gerddi Gleision a Phenffordd Deg - rhai o enwau mwyaf hudolus yr ardal.  Mewn llecyn cysgodol gerllaw cawsom gip ar adfeilion Bryn Tirion, y bwthyn bach to gwellt a ddisgrifir yng ngherdd Crych Elen.

“Pan yn rhuo fyddai’r daran
Ac yn gwibio byddai’r mellt
O rwy’n cofio fel y llechwn
Yn y bwthyn bach to gwellt.”

Ond er ei bod yn tampio dipyn erbyn hyn doedd dim angen i ni lechu oherwydd cawsom gysgod llwyni trwchus Y Llwybr Troed i lawr at geunant Hafodunos.  Mae’r llwybr yma hefyd yn rhan o Lwybr y  Pererinion a chawsom ein croesawu  yng nghanol y goedwig gan gerflun pren o John Bunyan oedd yn dangos y ffordd ymlaen i bererinion y Clwb!  Diolch i Haf am dynnu’n sylw at ffwng arbennig, math o ffwng ysgwydd, yn tyfu ar un o’r coed hynafol.  Daethom allan o dywyllwch y coed i ffordd galed y plas ac yn ôl am y pentre i ymlacio dros baned a chacen yn y Stag cyn troi am adre. 

Dyma restr o’r cerddwyr -  Eryl ac Angharad, Jane, Olwen, Haf, Dafydd, Anet, Rhian, Gwenan a Gwil, Gwyn, John a Carys, John Parry, Gwilym, Gwen, Richard, Gareth Tilsley, Gwen Aaron, Margaret a Gareth, Nia a Meirion a thri chyfaill o Langernyw.

Adroddiad Nia a Margaret

Lluniau gan MargaretFLICKR CLWB MYNYDDA CYMRU

 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

9/30/15 17:22