Pedol Cwm Llan 24 Hydref
Dim ond dau a fentrodd ar y daith hon, yr arweinydd ac Elen Huws.
Roedd y gwynt yn hyrddio ac roedd hi’n tresio bwrw glaw pan gyfarfyddon ni ym maes parcio Bethania. O dan yr amgylchiadau, penderfynon ni gwtogi tipyn ar y daith.
Penderfynon ni ddilyn Llwybr Watkin i Fwlch Ciliau ac esgyn y Lliwedd cyn ymweld â chopa Gallt y Wenallt. Erbyn i ni gyrraedd copa gorllewinol y Lliwedd, roedd y gwynt wedi gostegu a’r glaw wedi ’rafu. Wrth anelu am Gallt y Wenallt, cawsom gip neu ddau ar Gwm Dyli a chyfarfod ag ambell griw arall a oedd wedi mentro allan. Yn wir, erbyn i ni ddechrau gwneud ein ffordd i lawr o Gallt y Wenallt, rhaid oedd diosg y dillad glaw a mwynhau ychydig o haul yr hydref.
Diolch yn fawr i Elen am ei chwmni.
Adeoddiad Richard Roberts (Arweinydd)