HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Yr Wyddfa 25 Gorffennaf


Er wedi mentro taith Pedol yr Wyddfa sawl tro dros y blynyddoedd, roeddwn bob amser wedi ei gwneud yn y ffordd draddodiadol o gychwyn i fyny’r  Grib Goch a’i gorffen dros y Lliwedd. Penderfynais y byddai’n ddiddorol ei gwneud y ffordd groes , cychwyn ar y Lliwedd a’i gorffen ar y Grib.

Ymunodd 13 o aelodau gyda mi ym Mhen y Pass  sef  Dewi, Gareth Everet, Gaenor, Iolyn, Dwynwen, Rhodri, John Arthur, Sioned Hughes, Sioned Llew, Gareth Wyn,Eifion (Llanfairpwll), Meirion a Gwenan – y tri olaf yn mentro ar y Grib Goch am y tro cyntaf. Roedd  rhagolygon y tywydd yn eitha ffafriol , yn addo diwrnod sych gyda’r gwynt yn gostegu erbyn y prynhawn pryd y byddem yn mynd dros Grib Goch.

Cychwynwyd ar hyd Llwybr y Mwynwyr hyd at Lyn Llydaw, ac wedyn dilyn y llwybr (serth ar adegau) i fyny am y Lliwedd. Gan fod y gwynt yn fain, manteisiwyd ar y cyfle i gael paned yn y cysgod cyn dringo i  gopaon Lliwedd lle cawsom  fwynhau golygfeydd godidog, pob man yn glir heblaw am gopa’r Wyddfa lle roedd haen styfnig o gymylau yn ei gorchuddio. Yn ein blaenau a stopio am ginio ym Mwlch y Saethau , eto yn cysgodi rhag y gwynt oer.

Ar ol cinio dringwyd y darn serth o Lwybr Watkin  am y copa. Tra roedd wedi bod yn ddigon distaw ar Lliwedd, o gofio ei bod yn ddydd Sadwrn yng Ngorffennaf, wrth ddringo  Llwybr Watkin at y copa  roedd nifer y bobl o’n cwmpas yn cynyddu.Yn wir toedd yr  Wyddfa ddim ar ei gorau y diwrnod hwnnw.  Roedd y torfeydd o gwmpas y caffi a’r copa yn drwchus iawn ac ar ben hynny roedd y tywydd yn oer a niwlog. Yn ein blaenau felly heb oedi,   gan ryfeddu at y llif o bobl yn mynd i fyny a lawr rhwng y caffi a Bwlch Glas. Rhwng y torfeydd a ‘r niwl hawdd fyddai  colli rhywun ac yn wir dyna be ddigwyddodd, un yn fwriadol (John Arthur , oedd wedi penderfynu nad oedd am fynd dros y Grib ac felly yn mynd i lawr  Llwybr y PYG o Bwlch Glas) a dau arall yn anfwriadol! Wedi colli ein gilydd yn y torfeydd aethant i fyny’r  llwybr am Garnedd Ugain a disgwyl amdanom yno ac felly roedd y criw yn gyflawn eto.

Ymlaen wedyn am gopa Garnedd Ugain, wedi colli’r torfeydd erbyn hyn ond dal yn y cymylau, ond wedi mynd heibio’r pwynt trig fe ddechreuodd y cymylau godi ac roedd golygfeydd i lawr am Nant Peris a’r mynyddoedd o’n cwmpas am filltiroedd pell i’w mwynhau bellach. Disgyn wedyn i Fwlch Coch lle cafwyd paned sydyn cyn mynd ar y Grib. Mentro yn bwyllog dros y Grib; un fantais amlwg o fynd arni ddiwedd y  prynhawn oedd ei bod yn dawel iawn, y mwyafrif wedi mynd drosti yn y bore mae’n siwr. Ymunodd Gerallt Pennant a ni ar y copa (wedi bod yn ffilmio yn y bore ac wedi dod fyny o Bwlch y Moch yn y prynhawn i’n cyfarfod) a chafwyd cyfle i gael ambell  lun cyn disgyn i lawr am Ben y Pass. Dim ond 6 ohonom (Gareth Wyn,Iolyn, Meirion, Gwenan,  Sioned Llew a minnau) aeth am ddiod haeddianol yng Ngwesty Penygwryd ar ddiwedd y daith, pawb arall ag ymrwymiadau yn galw.

Fy marn am wneud y Bedol yn y cyfeiriad yma – wedi ei phrofi o’r ddau gyfeiriad bellach, dwi’n credu ei bod yn well ei gwneud yn y ffordd draddodiadol a chychwyn  ar y Grib Goch. Mae mantais o fynd ar y Grib ar ddechrau’r diwrnod cyn i’r coesau flino, ac fe welwyd bod dod i  lawr y Grib at Bwlch Moch yn llawer  anos na mynd i  fyny.

Diolch yn fawr iawn i bawb am eui cwmni  a llongyfarchiadau i Gwenan, Meirion ac Eifion am fynd dros y Grib Goch am y tro cyntaf.

Adroddiad: Iolo Roberts

Lluniau gan Sioned ar FLICKR