Cader / Cadair Idris 27 Mehefin
Daeth naw ohonom at ein gilydd ar y sgwâr yn Nolgellau mewn da bryd i ddal y bws naw a dod ohono union gyferbyn â’r tŷ yn rhesdai Bro Gyntyn yn y Bermo lle mae carreg i nodi’r ffaith mai yno y byddai’r dringwr arloesol Owen Glynne Jones yn treulio ei wyliau gyda pherthnasau iddo. Mae’n bur debyg mai o’r tŷ hwnnw y cychwynnodd ar ei daith dyngedfennol ym Mai 1888 tuag at Gadair Idris a llwyddo i ddringo crib y Cyfrwy, ar ei ben ei hun, heb offer i’w ddiogelu na phrofiad blaenorol i roi cychwyn ar yrfa a’i gwelodd yn datblygu i fod yn un o ddringwyr gorau ei oes – os nad y gorau un. Diddorol oedd clywed y bydd Dewi, un o’n cwmni ni, yn ymweld yr haf hwn ag Evolene, y pentref yn y Swisdir lle y gorwedd corff O.G. Jones wedi’r ddamwain drychinebus ar grib y Dant Gwyn yn 1899 pan laddwyd pedwar o’r fintai o ddringwyr.
(Llun o fedd O.G.Jones yng nghornel y fynwent yn Evolene, 2012 - Gol.)
Croesi Pont y Bermo oedd cam cyntaf ein taith ni, gan lawenhau nad oes bellach angen talu 30c am gael gwneud hynny! Er ei bod yn ddiwrnod llwydaidd a’r cwmwl isel yn cuddio’r mynyddoedd o bobtu dyffryn Mawddach, gwyddem yr ateb i gwestiwn W.D. Williams, a dreuliodd flynyddoedd yn brifathro yn y Bermo:
Pwy a groesodd Bont y Bermo
Na cha’dd gyfoeth gwerth ei gofio?
Wedi cerdded heibio gorsaf Morfa Mawddach a chyrraedd cyrion pentref Arthog, trodd ein golygon a’n camau ar i fyny ar hyd llwybr hyfryd drwy goedwig a heibio olion chwarelydda tuag at ffermdy Cyfannedd Fawr lle’r oedd baner Draig Goch fawr yn chwifio’n falch yn yr ardd. Yma y bu’r bardd gwlad, Morus Cyfannedd, a oedd yn frawd-yng-nghyfraith i Hedd Wyn, yn ffarmio – neu, yn ei eiriau ei hun, yn Gwario ’nerth ar groen Arthog.
Manteisiwyd ar gyfle yma i gael paned gynta’r dydd a mwynhau’r olygfa yn ôl tua’r Bermo a llechweddau Dinas Olau uwchben y dref. Os gallai Dylan Thomas ddisgrifio Abertawe fel ugly, lovely town yna byddai’n sicr yn ddisgrifad cymwys o’r Bermo hefyd! Dinas Olau, yn 1895, oedd yr eiddo cyntaf a ddaeth i feddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a hynny fel rhodd gan Saesnes gyfoethog o’r enw Fanny Talbot a oedd wedi ymsefydlu yn y dref. Roedd hi’n gyfeilles i’r llenor a’r hanesydd celf enwog o Sais, John Ruskin. Dyn rhyfedd ar sawl cyfrif oedd ef ond tarrodd ar un gwirionedd mawr pan ddywedodd nad oes ond un taith yn y byd yn well na’r daith o Ddolgellau i’r Bermo . . . a’r daith o’r Bermo i Ddolgellau yw honno!
Roeddem erbyn hyn hefyd yn edrych i lawr ar hen bentref y Friog ac ar bentref fwy newydd Fairbourne, a adeiladwyd o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen ar wastatir Morfa Henddol. Solomon Andrews, sydd hefyd â chysylltiad agos â datblygiad Pwllheli a Llanbedrog, oedd yr arloeswr cyntaf cyn gwerthu i Arthur McDougall, o’r cwmni blawd! Y bwriad oedd datblygu tref glan môr sylweddol, a’r enw gwreiddiol a ddewisiwyd oedd South Barmouth. Efallai bod hyd oed Fairbourne yn well na hynny! Roedd harddwch aber y Fawddach yn denu llawer o gyfoethogion ac ymwelwyr a’r broses o seisnigo arfordir Meirion ar droed ganrif a mwy yn ôl. Un ymwelydd arall oedd Mrs Sarah Perrins, gweddw un o sefydlwyr cwmni sôs Lea & Perrins, a hi a dalodd am adeiladau eglwys urddasol Sant Ioan sy’n edrych i lawr ar dre’r Bermo.
Wedi i’r baned a’r olygfa ein hatgyfnerthu ymlaen â ni tuag at gopa cynta’r dydd, Craig Cwm-llwyd, gan groesi’r Ffordd Ddu, yr hen ‘briffordd’ a arferai gysylltu dyffrynnoedd Mawddach a Dysynni. Dyma ardal enedigol Merfyn, un arall o’r criw, ac mae ei deulu’n parhau i ddal tir yn y cyffiniau. Diddorol oedd clywed sawl stori ganddo; ei dad oedd y cyntaf i gyrraedd y fan ar lechrau Craig Cwm-llwyd lle y dinistriwyd awyren Americanaidd Flying Fortress ym Mehefin 1945, ar y ffordd o dde Lloegr i’r Fali, cymal cyntaf ei thaith yn ôl i’r Unol Daleithau, gan ladd pob un o’r ugain ar ei bwrdd. Yn ôl un honiad, roedd y peilot wedi cymysgu rhwng aberoedd Mawddach a’r Fenai ac wedi hedfan yn isel gan dybio ei fod uwchben gwastatir Môn. Mae’n debyg bod ffrydiau o kerosene yn llifo i lawr y mynydd wedi’r ddamwain ac erbyn hyn mae carreg ar ochr y Ffordd Ddu i gofio’r drychineb.
Cerdded gweddol wastad wedyn cyn codi eto i gopa Craig-y-llyn (622 medr). I’r de, roedd dyffryn Dysynni, a Chraig yr Aderyn i’w gweld yn glir. I’r gogledd, swatia’r llyn efo’r enw anghyffredin, Llyn Cyri, gydag aceri lawer o goed llys glaswyrdd ir yn drwch dros y llechweddau serth. Wedi cinio sydyn, roedd angen disgyn rhyw bedwar can troedfedd cyn esgyn i’r Graig-las (661 medr) neu’r Tyrrau Mawr. Rhaid oedd croesi’r gamfa i fwynhau’r olygfa ddramatig yn unionsyth tuag at ffarm Nant-y-gwyrddail yn union oddi tanom, Llynnau Cregennan a Phared y Cefnir (Cefn Hir yn llawn). Er nad oes llawer o greigiau agored ar y llechweddau gogleddol hyn o’r grib, maent yn hynod o serth, yn atgoffa rhywun o rai o gribiau Bannau Brycheiniog neu Fannau Sir Gâr, a does yr un llwybr yn bosib i lawr ar hyd iddynt.
Wedi cyrraedd Bwlch Gwredydd a chroesi ar draws llwybr Pilyn Pwn, enw sy’n dwyn i gof y ceffylau’n cludo sachau fyddai’r croesi’r bwlch o Lanfihangel y Pennant ar eu ffordd i Ddolgellau, gwyddem fod dringfa ola’r dydd, i gopa’r Gadair, o’n blaenau. Rhyw chwarter awr o’r copa dyma gyfarfod Myfyr, wrth ei waith fel warden (roedd wedi picio i’r sgwâr yn Nolgellau i ddymuno’n dda i ni yn y bore hefyd!) ac yn cadw llygad ar griwiau lluddedig ond penderfynol eu gwedd oedd yn codi arian at rhyw elusen neu’i gilydd trwy ddringo Tri Copa Cymru. Wedi cerdded yr Wyddfa yn y bore, byddai’n hwyr iawn ar rai ohonynt yn cyrraedd Pen-y-fan!
Doedd fawr o gysur i’w gael ar y copa; wedi i’r haul fygwth torri drwodd yng nghynt yn y dydd, roeddem mewn niwl trwchus a gwynt oer ar ben hynny. Paned sydyn ac ymlaen am Fynydd Moel amdani felly; wedi cip sydyn ar Lyn yr Arran dan y clogwyni ymlaen â ni’n bwrpasol tuag at Gau Graig, lle gwahanol i Graig Cau wrth gwrs! Roedd y tywydd yn gwella erbyn hyn ac roedd heulwen dros Gwm Hafod Oer a bylchoedd Llyn Bach ac Oerddrws (bylchoedd Tal-y-llyn a Dinas i lawer!) wrth inni ddisgyn yn raddol drwy’r ffriddoedd at flaen y ffordd ger ffermydd Maes Coch a Bwlch Coch. Wedi dilyn y ffordd serth hon am rhyw filltir go dda, dyma droi i lwybr hyfryd drwy Goed y Pandy ac ar hyd glannau afon Arran yn ôl i ganol Dolgellau. Braf oedd cael llymaid yn yr haul o flaen gwesty’r Ship gan fwynhau’r olygfa o Fynydd Moel yn codi’n dalsyth uwchben y dref. Diolch i Eirlys ac Iolyn, Manon Davies, Iolo Roberts, Merfyn Lloyd, Dewi Hughes, Prys a Gareth Wyn am fod cystal cwmni ar y daith – rhyw 17 milltir mewn ychydig llai na naw awr.
Adroddiad gan Eryl Owain
Lluniau gan Iolo Roberts FLICKR